Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

St Andrews Road, Bae Colwyn - Cyfyngiad ar Bwysau 7.5 Tunnell: Gorchymyn


Summary (optional)
start content

Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (St Andrews Road Bae Colwyn) (Cyfngiad ar Bwysau 7.5 Tunnell) 2023


Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel "y Cyngor"), gan arfer ei bwerau dan Adrannau 1 a 2 Deddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984 (deddf y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel "Deddf 1984") a'r holl bwerau galluogi eraill, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III Atodlen 9 i Ddeddf 1984, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:-

  • 1.  Ac eithrio fel a ddarperir yn Erthygl 2 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw unigolyn, oni bai ei fod yn gweithredu ar gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu gwasanaethydd parcio mewn lifrai, defnyddio,achosi neu ganiatau i unrhyw gerbyd na cherbyd â llwyth sy'n pwyso mwy na 7.5 tunnell gyda'i gilydd, rhag mynd ar hyd St Andrews Road Bae Colwyn a fel y dangosir ar y cynllun sydd yng-hlwm.

  • 2.  Ni weithredir unrhyw beth yn Erthygl 1 y Gorchymyn hwn mewn modd a fydd yn rhwystro unrhyw unigolyn rhag achosi i unrhyw gerbyd fynd ar hyd y ffyrdd a nodir ar yr Atodlen, os yw'r cerbyd hwnnw'n cael ei ddefnyddio:-

    • (a)  i gludo pobl neu nwyddau i neu oddi wrth unrhyw adeilad a leolir ar hyd y darn hwnnw o'r ffordd neu'n gyfagos iddo;

    • (b)  at ddibenion trwsio neu gynnal a chadw neu weithred debyg ar y ffordd neu dir cyfagos i'r darnau hynny o'r ffordd;

    • (c)  yng nghyswllt unrhyw waith adeiladu neu ddymchwel ar y darn hwnnw o'r ffordd neu'n gyfagos iddo;  symud unrhyw rwystr ar drafnidiaeth ar y darn hwnnw o'r ffordd;  cynnal, gwella neu ailadeiladu'r darn hwnnw o'r ffordd;  neu osod, adeiladu, newid, neu atgyweirio, ar y darn hwnnw o'r ffordd neu'n gyfagos iddo, unrhyw garthffos, pibell neu gyfarpar ar gyf-er cyflenwi nwy, dŵr neu drydan, neu unrhyw linell delegraffig fel y'i di-ffinnir yn Neddf Telegraff 1978.

    • (d)  at ddibenion yr Heddlu, y Gwasanaethau Tân neu Ambiwlans

    • (e)  cerbydau sy'n gwneud gwaith i'r Cyngor

  • 3.  Daw'r Gorchymyn i rym ar 20 Mawrth 2023 a gellir ei ddyfynnu fel "Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (St Andrews Road Bae Col-wyn) (Cyfyngiad ar Bwysau 7.5 Tunnell) 2022".  


RHODDWYD
  dan Sêl Gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y 13 dydd hwn o Fawrth Dwy fil a tair ar hugain

Tudalen Nesaf: Map

end content