Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ffyrdd Amrywiol, Conwy - Gwahardd a Chyfyngu ar Aros: Gorchymyn


Summary (optional)
start content

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Ffyrdd Amrywiol Conwy) (Gwahardd a Chyfyngu Ar Aros) 2024 - Rhan 1


Yn unol â'i bwerau dan Adrannau 1 a 2 (a Rhan IV Atodlen 9) yn Neddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel "Deddf 1984"), a'r holl bwerau galluogi eraill, ac ar ôl ymgynghori efo Prif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III Atodlen 9 Deddf 1984, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel "y Cyngor"), drwy hyn, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:-

  • 1. Bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar y dydd o ddwy fil a phedair ar hugain a gellir ei ddyfynnu fel "Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Ffyrdd Amrywiol Conwy) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros) 2024 – Rhan 1."

  • 2.  
    • (1)  Yn y Gorchymyn hwn:-

      mae "safle tacsis awdurdodedig" yn golygu unrhyw ran o ffordd gerbydau sydd wedi ei chynnwys oddi mewn i farciau ffordd sy'n cydymffurfio â diagram 1028.2 yn Atodlen 6 Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Trafnidiaeth Ffyrdd 2016;

      mae "lle parcio awdurdodedig" yn golygu unrhyw le parcio ar ffordd sydd wedi ei awdurdodi neu wedi ei ddynodi gan Orchymyn sydd wedi ei wneud dan Ddeddf 1984, neu sydd mewn grym fel pe bai wedi cael ei wneud dan y Ddeddf honno;

      mae "safle bysiau" yn golygu unrhyw ddarn o ffordd gerbydau a ddynodir mewn unrhyw Erthygl neu Atodlen i'r Gorchymyn hwn fel un sydd wedi ei fwriadu ar gyfer aros gan fysiau sydd wedi ei gynnwys oddi mewn i farciau ffordd sy'n cydymffurfio â diagram 1025.1, 1025.3 neu 1025.4 yn Atodlen 6 Rheoliadau Arwyddion Trafnidiaeth a Chyfarwyddiadau Cyffredinol 2016;

      mae gan "cerbyd hacni" yr un ystyr ag sydd gan "hackney carriage" yn Adran 38(1) Deddf Cerbydau (Tollau) 1971;

      mae gan "bathodyn person anabl" yr un ystyr ag sydd ganddo yn Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000;

      mae gan "disg parcio" yr un ystyr ag sydd ganddo yn Rheoliad Rhif 8 Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl) (Cymru) 2000;
    • (2)  At ddiben y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos bathodyn unigolyn gydag anabledd yn y lle perthnasol:

      • (a)  pan nad yw'r bathodyn wedi peidio â bod mewn grym; a
      • (b)
        • (i) pan fo'r bathodyn yn cael ei arddangos ar forden flaen neu banel deialau'r cerbyd, neu

        • (ii) pan fo'r bathodyn yn cael ei arddangos mewn lle amlwg ar flaen neu ar ochr agos y cerbyd (os nad oes borden flaen neu banel deialau yn y cerbyd), fel bod modd darllen blaen y bathodyn yn glir o'r tu allan i'r cerbyd.

    • (3) At ddiben y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos disg parcio yn y lle perthnasol:

      • (a) pan fo'r disg yn cael ei arddangos ar forden flaen neu banel deialau'r cerbyd, neu

      • (b) pan fo'r disg yn cael ei arddangos mewn man amlwg ar y cerbyd, os nad oes borden flaen neu banel deialau yn y cerbyd.

    • (4) Ac eithrio lle nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at Erthygl neu Atodlen rifedig yn gyfeiriad at yr Erthygl neu Atodlen sydd â'r rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.

  • 3. Ac eithrio fel y darperir yn Erthygl 7 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw un, oni bai ei fod yn gweithredu dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu swyddog gorfodaeth sifil mewn lifrai, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar unrhyw adeg ar y darnau o ffordd a nodir yn Atodlen 1.

  • 4. Ac eithrio fel y darperir yn Erthygl 7 o'r Gorchymyn hwn ni chaiff neb, ac eithrio dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu swyddog gorfodi sifil mewn lifrai, achosi na chaniatáu i unrhyw garafán neu garafán modur aros ar unrhyw adeg rhwng 11pm a 8am ar hyd y darn ffordd a nodir yn Atodlen 2.
  • 5. Ac eithrio fel y darperir yn Erthygl 8 o'r Gorchymyn hwn ni chaiff neb, ac eithrio dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu swyddog gorfodi sifil mewn lifrai, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd lwytho / dad-lwytho ar unrhyw adeg ar y darnau o ffordd a nodir yn Atodlen 3.
  • 6. Ac eithrio fel y darperir yn Erthygl 7 o'r Gorchymyn hwn ni chaiff neb, ac eithrio dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu swyddog gorfodi sifil mewn lifrai, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros am fwy na 60 munud, 8am i 6pm heb ddychwelyd o fewn 120 munud ar y darnau o ffordd a nodir yn Atodlen 4.
  • 7.
    • (1) Ni fydd unrhyw beth yn Erthygl 3, 4 a 6 yn y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon achosi neu ganiatáu i unrhyw gerbyd aros ar y darn(au) ffordd y cyfeirir atynt yn yr Erthyglau hynny, gyhyd ag y bydd angen i ganiatáu:-

      • (a) I unigolyn fynd i mewn i gerbyd neu ddod allan ohono.

      • (b) I nwyddau gael eu llwytho ar y cerbyd neu gael eu dadlwytho oddi arno.

      • (c) defnyddio’r cerbyd, os nad oes modd ei ddefnyddio'n hwylus i bwrpas o'r fath ar unrhyw ffordd arall, mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r gweithgareddau canlynol, sef:-

        • (i) Gweithrediadau adeiladu, dymchwel neu ddiwydiannol.

        • (ii) Symud unrhyw rwystr i draffig.

        • (iii) Cynnal, gwella neu ailadeiladu'r darn[au] ffordd dan sylw.

        • (iv) Gosod, codi, addasu, neu atgyweirio, ar dir cyfagos i’r darn(au) ffordd dan sylw, unrhyw garthffos, neu unrhyw brif bibell neu gyfarpar cyflenwi nwy, dŵr neu drydan, neu unrhyw offer telathrebu fel y mae'r rheiny'n cael eu diffinio yn Neddf Telathrebu 1984.

      • (ch) I'r cerbyd gael ei ddefnyddio, os nad oes modd ei ddefnyddio'n hwylus i bwrpas o'r fath ar unrhyw ffordd arall, at wasanaeth awdurdod lleol neu gwmni gwasanaeth cyhoeddus, i gyflawni pwerau neu ddyletswyddau statudol.

      • (d) Cerbyd darparwr gwasanaeth cyffredinol dan Adran 125 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000.

      • (dd) I'r cerbyd aros gerbron neu yn agos at unrhyw adeilad sydd wedi ei leoli ar y darn[au] ffordd dan sylw neu'n gyfagos iddynt, am gyhyd ag y bydd angen rhesymol i'r cerbyd hwnnw aros yno mewn cysylltiad ag unrhyw briodas neu gynhebrwng.

      • (e) I'r cerbyd gael ei ddefnyddio at ddibenion y frigâd dân, yr heddlu neu ambiwlans.

    • (2) Ni fydd unrhyw beth yn Erthygl 3 y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon achosi neu ganiatáu i gerbyd unigolyn gydag anabledd sy'n arddangos, yn y lle perthnasol, fathodyn unigolyn gydag anabledd a disg parcio (lle mae'r gyrrwr, neu unigolyn arall sydd â gofal am y cerbyd, wedi nodi'r amser y dechreuodd y cyfnod aros) aros ar y darn[au] ffordd y cyfeirir atynt yn yr Erthygl honno am gyfnod o ddim mwy na 3 awr (ar yr amod bod cyfnod o ddim llai nag 1 awr wedi mynd heibio ers diwedd unrhyw gyfnod blaenorol o aros gan yr un cerbyd ar yr un diwrnod).

      Nid oes dim yn Erthygl 6 o'r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon achosi neu ganiatáu i gerbyd person anabl sy'n arddangos bathodyn person anabl yn y safle perthnasol aros am gyfnod diderfyn o amser ar hyd y darn o ffordd y cyfeirir ati yn yr Erthygl honno.

  • 8.
    • (1) Ni fydd unrhyw beth yn Erthygl 5 y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon achosi neu ganiatáu i unrhyw gerbyd aros ar y darn[au] ffordd y mae'r Erthygl honno'n cyfeirio atynt am gyhyd ag sydd angen i alluogi:-

      • (a) I'r cerbyd, os na ellir ei ddefnyddio yn gyfleus at ddibenion o’r fath ar unrhyw ffordd arall, gael ei ddefnyddio mewn cyswllt ag unrhyw un o’r gweithrediadau canlynol, yn benodol:-

        • (i) Gweithrediadau adeiladu, diwydiannol neu ddymchwel.

        • (ii) Cael gwared ar unrhyw rwystr i draffig.

        • (iii) Cynnal a chadw, gwella neu ailadeiladu’r darn(au) o ffordd dan sylw.

        • (iv) Gosod, codi, newid, neu atgyweirio, ar y darn[au] ffordd dan sylw neu ar dir cyfagos â hwy, unrhyw garthffos, neu unrhyw brif bibell neu gyfarpar cyflenwi nwy, dŵr neu drydan, neu unrhyw offer telathrebu fel y maent yn cael eu diffinio yn Neddf Telathrebu 1984.

        • (v) I'r cerbyd, os na ellir ei ddefnyddio yn gyfleus at ddibenion o’r fath ar unrhyw ffordd arall, gael ei ddefnyddio at wasanaeth awdurdod lleol neu gwmni gwasanaeth cyhoeddus, yn unol â phwerau neu ddyletswyddau statudol.

      • (b) Cerbyd darparwr gwasanaeth cyffredinol dan Adran 125 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000.

      • (c) I'r cerbyd aros wrth neu’n agos at unrhyw adeilad sydd wedi ei leoli ar y darn[au] ffordd dan sylw neu'n gyfagos atynt, am gyhyd ag y bydd angen rhesymol i'r cerbyd hwnnw aros yno mewn cysylltiad ag unrhyw briodas neu gynhebrwng.

      • (ch) I'r cerbyd gael ei ddefnyddio at ddibenion y frigâd dân, yr heddlu neu ambiwlans.

      • (d) I gerbyd aros pan fydd yn ofynnol i'r person sy'n rheoli'r cerbyd stopio yn ôl y gyfraith, neu'n gorfod stopio er mwyn osgoi damwain neu'n cael  ei atal rhag symud ymlaen gan amgylchiadau y tu hwnt i'w reolaeth.

  • 9. Pan fo unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gwrthdaro ag amod sydd wedi ei chynnwys mewn Gorchymyn sydd wedi ei wneud, neu sydd mewn grym fel pe bai wedi ei wneud, dan Ddeddf 1984, ac sydd mewn grym pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, ac sy'n gosod cyfyngiad neu waharddiad ar gerbydau heblaw bysiau neu goetsys cyflym mewn arhosfan bysiau, neu'n esgusodi rhag cyfyngiad neu waharddiad o'r fath, darpariaeth y Gorchymyn hwnnw fydd yn berthnasol.

  • 10. Bydd y gwaharddiadau a'r cyfyngiadau sy'n cael eu gosod gan y Gorchymyn hwn yn ychwanegol at unrhyw gyfyngiad neu amod sy'n cael ei osod gan unrhyw reoliadau sydd wedi eu gwneud dan Ddeddf 1984, neu sydd mewn grym fel pe baent wedi eu gwneud naill ai dan y Ddeddf honno neu gan unrhyw ddeddf arall, ac ni fyddant yn tynnu oddi wrtho.

 

GWNAETHPWYD dan Sêl Gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar 14 Rhagfyr, dwy fil a dau ddeg tri.

Atodlen 1 - Dim aros ar unrhyw adeg

Beacons Way, Conwy

  • Ochr y de-ddwyrain: O bwynt 20 metr i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd gyda Morlais i bwynt 145 metr i’r gogledd-orllewin o Meirion Drive.
  • Y ddwy ochr: o’i chyffordd â Meirion Drive am bellter o 10 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin.

Morlais, Conwy

  • Y ddwy ochr: o’i chyffordd â Beacons Way am bellter o 5 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain.

Ellis Way, Conwy

  • Y ddwy ochr: o’i chyffordd â Meirion Drive am bellter o 10 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin.
  • Ochr y gogledd: O bwynt 10 metr i’r gorllewin o’i chyffordd â Telford Close am bellter o 87 metr i gyfeiriad y dwyrain.
  • Ochr y de: o’i chyffordd â Meirion Drive am bellter o 20 metr i gyfeiriad y gorllewin.

Telford Close, Conwy

  • Y ddwy ochr: o’i chyffordd ag Ellis Way am bellter o 5 metr i gyfeiriad y gogledd.

Morfa Drive, Conwy

  • Y ddwy ochr: o’i chyffordd ag Ellis Way am bellter o 15 metr i gyfeiriad y de.

Meirion Drive, Conwy

  • Y ddwy ochr: o’i chyffordd ag Ellis Way am bellter o 10 metr i gyfeiriad y de-orllewin a’r gogledd-ddwyrain.

Oakwood Lane

  • Ochr y dwyrain: o’i chyffordd â Ffordd Bwlch Sychnant am bellter o 10 metr i gyfeiriad y de-orllewin.

Ffordd Bwlch Sychnant

  • Ochr y de-ddwyrain: o’i chyffordd ag Oakwood Lane am bellter o 26 metr.

Ffordd fynediad Ysgol Aberconwy oddi ar Morfa Drive

  • Y ddwy ochr: o’i chyffordd â Morfa Drive am bellter o 30 metr i gyfeiriad y dwyrain.

Pen Garth

  • Ochr y gogledd: o’i chyffordd â St Agnes Road am bellter o 12 metr i gyfeiriad y gorllewin.

Castle Square, Conwy

  • Ochr y gogledd: o’i chyffordd â Rose Hill Street am bellter o 37 metr i gyfeiriad y dwyrain.

York Place

  • Ochr y de-orllewin: o bwynt 11 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Chapel Street am bellter o 23 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain.

Upper Gate Street, Conwy

  • Ochr y de-ddwyrain: o’i chyffordd â St Agnes Road am bellter o 20 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain.

Hen Bont, Capel Curig

  • Y ddwy ochr: o bwynt 55 metr gogledd o’i chyffordd â’r A4086 am bellter o 62 metr i gyfeiriad y gogledd.

 

Atodlen 2 - Gwahardd aros gan Gartrefi Modur a Charafanau ar unrhyw adeg rhwng 11pm ac 8am

Benarth Road

  • Ochr y de: O bwynt 12 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Ffordd Llanrwst i Benarth Lodge, am bellter o 260 metr.

 

Atodlen 3 - Dim llwytho/dadlwytho ar unrhyw adeg

Castle Square

  • Ochr y gorllewin: o’i chyffordd â Rose Hill Street am bellter o 32 metr i gyfeiriad y de.

Rose Hill Street

  • Ochr y de: o’i chyffordd â Castle Square am bellter o 12 metr tua’r gorllewin.

 

Atodlen 4 - Aros Cyfyngedig am 60 munud 8am – 6pm Dim dychwelyd 120 munud.

York Place, Conwy

  • Ochr y de-orllewin: o bwynt 11 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Chapel Street am bellter o 16 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain.

 


Tudalen Nesaf: Mapiau

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content