Cyfeirnod: CCBC - 050056
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Mannau Parcio i Unigolion ag Anabledd) (Rhif 1) 2025 – Rhan 2
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwneud Gorchymyn dan Adrannau 1, 2 a 4 Deddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984 a fydd yn dynodi'r darnau o ffordd a nodwyd yn yr Atodlen isod fel Gofod Parcio i Bobl Anabl i'w ddefnyddio gan gerbydau sy'n arddangos Bathodyn Anabl dilys a Thrwydded Preswylydd yn unig.
Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn a'r cynlluniau, a fydd yn dod i rym ar 29 Mehefin 2026 ar wefan y Cyngor. Os ydych am gwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn neu unrhyw ddarpariaeth ynddo ar y sail nad yw o fewn y pwerau a roddir gan Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad o’r Ddeddf honno neu unrhyw offeryn a wnaed oddi tani, o ran y Gorchymyn, gallwch wneud cais i’r Uchel Lys at y diben hwn, cyn pen chwe wythnos o’r dyddiad hwn.
Atodlen 1
3 Cae Bronydd, Llanrwst
- Ochr y dwyrain: o bwynt 108 metr i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â Ffordd Talybont am bellter o 6.6m tua’r gogledd-ddwyrain.
50 Cae Person, Llanrwst
- Ochr y dwyrain: o bwynt 16 metr i’r de-orllewin o’i chyffordd â Cae Person am bellter o 6.6 metr tua’r de-orllewin
36 Ddol Ddu, Hen Golwyn
- Ochr y de: o bwynt 16 metr i’r gorllewin o’r gyffordd gyda Ddol Ddu am bellter o 6.6 metr tua’r dwyrain
Dyddiedig: 24 Mehefin 2026

M Georgiou
Pennaeth y Gyfraith a Llywodraethu
Tudalen Nesaf: Gorchymyn