Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Mannau Parcio i Unigolion Ag Anabledd) (Rhif 1) 2025 - Rhan 2
Yn unol â'i bwerau dan Adrannau 1, 2 a 4 a Rhan IV Atodlen 9 Deddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati wedi hyn fel "Deddf 1984"), a'r holl bwerau galluogi eraill, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III Atodlen 9 Deddf 1984, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y cyfeirir ato wedi hyn fel "y Cyngor") drwy hyn, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:-
1. Bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar dwy fil a chwech ar hugain, a gellir cyfeirio ato fel "Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Mannau Parcio i Unigolion ag Anabledd) (Rhif 1) 2025 – Rhan 2."
2. (1) Yn y Gorchymyn hwn:-
ystyr "man parcio wedi’i awdurdodi" yw unrhyw le parcio ar ffordd sydd wedi’i awdurdodi neu ei neilltuo drwy Orchymyn a wnaed, neu sydd â’r un effaith â phetai wedi’i wneud dan Ddeddf 1984;
yr un ystyr sydd i "bathodyn unigolyn ag anabledd" a’r ystyr yn Rheoliadau Unigolion Gydag Anabledd (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2002;
yr un ystyr sydd i "disg parcio" a’r ystyr yn Rheoliad 8 Rheoliadau Gorchmynion Trafnidiaeth Awdurdodau Lleol (Eithriadau ar gyfer Unigolion Gydag Anabledd) (Cymru) 2000;
(2) I bwrpas y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos bathodyn unigolyn ag anabledd yn y lle perthnasol os:
(a) yw'r bathodyn yn ddilys; a
(b) (i) bod y bathodyn yn cael ei arddangos ar forden flaen neu ddangosfwrdd y cerbyd, gan sicrhau y gellir gweld Rhan 1 y bathodyn o ymyl y ffordd, neu
(ii) os nad oes gan y cerbyd forden flaen neu ddangosfwrdd, bod y bathodyn yn cael ei arddangos ar ran amlwg o'r cerbyd, gan sicrhau y gellir gweld Rhan 1 y bathodyn o ymyl y ffordd.
(3) I bwrpas y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos disg parcio yn y lle perthnasol os:
(a) os yw’n bosibl gweld o ymyl y ffordd yr ochr o’r ddisg sy'n dangos y chwarter awr pan ddechreuodd y cyfnod aros.
(4) Ac eithrio lle nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at Erthygl neu Atodlen wediu rhifo yn gyfeiriad at yr Erthygl neu Atodlen sydd â'r rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.
3. Ac eithrio’r hyn a ddarperir yn Erthygl 4 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw un, oni bai ei fod yn gweithredu dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu Swyddog Gorfodaeth Sifil mewn iwnifform, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar unrhyw adeg ar y darnau ffordd a nodir yn Atodlen 1 y Gorchymyn hwn, oni bai bod y cerbyd yn arddangos bathodyn unigolyn gydag anabledd a thrwydded preswylydd.
4. Ac eithrio’r hyn a ddarperir yn Erthygl 3 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw un, oni bai ei fod yn gweithredu dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd Cwnstabl Heddlu neu Swyddog Gorfodaeth Sifil mewn iwnifform, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar y darnau o ffordd y cyfeirir atynt yma am gymaint o amser ag sydd ei angen i alluogi:
(a) i'r cerbyd gael ei ddefnyddio, os na ellir ei ddefnyddio'n hwylus at ddibenion o'r fath ar unrhyw ffordd arall, i wneud y canlynol, sef:
(i) gwaith adeiladu, diwydiannol neu ddymchwel.
(ii) cael gwared ar unrhyw rwystr i drafnidiaeth.
(iii) cynnal, gwella neu ail adeiladu'r darnau o ffordd y cyfeirir atynt.
(iv) gosod, adeiladu, addasu neu drwsio unrhyw bibell garthffos neu brif biben neu offer ar gyfer darparu nwy, dŵr, trydan neu unrhyw offer telegyfathrebu, fel y caiff ei ddiffinio yn Neddf Telegyfathrebu 1984, ar dir neu dir sy'n gyfagos i'r darnau o ffordd y cyfeirir atynt.
(b) i'r cerbyd gael ei ddefnyddio, os na ellir ei ddefnyddio'n hwylus at ddibenion o'r fath ar unrhyw ffordd arall, at wasanaeth yr awdurdod lleol neu gwmni gwasanaeth cyhoeddus, yn unol â phwerau neu ddyletswyddau statudol.
(c) cerbyd darparwyr gwasanaeth cyffredinol dan Adran 125 Deddf Gwasanaethau Post 2000.
5. Mae’r gwaharddiad a’r cyfyngiadau a bennir drwy’r Gorchymyn hwn yn ychwanegol at unrhyw gyfyngiad, gwaharddiad neu ofyniad bennir drwy unrhyw reoliadau a wnaed neu sy’n cael effaith fel pe baent wedi’u gwneud dan Ddeddf 1984, neu drwy neu o dan unrhyw ddeddfiad arall, ac nid yn rhanddirymiad iddynt.
Rhoddwyd dan Sêl Gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar Dwy fil a chwech ar hugain
Atodlen 1 - Deiliaid trwydded preswylydd anabl yn unig
3 Cae Bronydd, Llanrwst
- Ochr y dwyrain: o bwynt 108 metr i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â Ffordd Talybont am bellter o 6.6m tua’r gogledd-ddwyrain.
50 Cae Person, Llanrwst
- Ochr y dwyrain: o bwynt 16 metr i’r de-orllewin o’i chyffordd â Cae Person am bellter o 6.6 metr tua’r de-orllewin
36 Ddol Ddu, Hen Golwyn
- Ochr y de: o bwynt 16 metr i’r gorllewin o’r gyffordd gyda Ddol Ddu am bellter o 6.6 metr tua’r dwyrain