Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ffyrdd Amrywiol, Dolgarrog a Tyn y Groes - Gwahardd a Chyfyngu ar Aros: Hysbysiad


Summary (optional)
Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn bwriedig yw:
  • Cynnal llif esmwyth traffig a gwella diogelwch ar y ffyrdd
start content

Cyfeirnod: CCBC - 041119

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Dolgarrog a Tyn y Groes) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros) 2022


Gwnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy y Gorchymyn a enwir uchod dan Adrannau 1 a 2 Deddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984, a’i effaith fydd gwahardd cerbydau rhag aros ar unrhyw adeg ar y darn o ffordd a nodir yn Atodlen 1 a cyfyngu amser aros i 120 munud, 8am to 7pm heb ddychwelyd o fewn 120 munud ar y darnau  ffordd a nodir yn Atodlen 2.

Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn a map, a ddaw i rym ar 19 Rhagfyr 2022 ar wefan y Cyngor.  Mae'r Gorchymyn yn darparu eithriadau a fydd yn caniatáu aros i bwrpas dod allan o gerbyd, mynd i mewn i gerbyd, llwytho, dadlwytho a gwaith cynnal a chadw, atgyweirio ac yn y blaen ac i gerbydau sydd yn arddangos bathodyn unigolyn anabl, ynghyd â disg parcio unigolyn anabl.

Os ydych yn dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn neu ddilysrwydd unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir ynddo, ar y sail nad yw'n dod o fewn y pwerau a roddir gan Ddeddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984, neu oherwydd na chydymffurfiwyd, mewn perthynas â'r Gorchymyn, ag unrhyw amod o'r Ddeddf neu o unrhyw offeryn a wnaed dan y ddeddf, gallwch wneud cais i'r Uchel Lys i'r perwyl hwn o fewn chwe wythnos o ddyddiad y rhybudd hwn.

Atolden 1 - Dim aros ar unrhyw adeg

Ffordd Conwy, Dolgarrog

  • Ochr y dwyrain:  o’i chyffordd gyda Clark Street am bellter o 70 metr i gyfeiriad y de
  • Ochr y dwyrain:  o’i chyffordd gyda Clark Street am bellter o 80 metr i gyfeiriad y gogledd

Ffordd dienw (sy’n arwain at safle Dŵr Cymru)

  • Ochr y gogledd:  o’i chyffordd gyda Ffordd Conwy am bellter o 7 metr tua’r gogledd-ddwyrain
  • Ochr y de:  o’i chyffordd gyda Ffordd Conwy am bellter o 20 metr tua’r gogledd-ddwyrain

Ffordd Conwy, Tyn y Groes

  • Ochr y Gorllewin:  o bwynt 16 metr i'r de orllewin o'i chyffordd â Ffordd Rowen, Sgriven am bellter o 24 metr tua’r gogledd ddwyrain.
  • Ochr y Gorllewin:  o bwynt 53 metr i'r gogledd ddwyran o'i chyffordd â Ffordd Rowen, Sgriven am bellter o 24 metr tua’r gogledd orllewin.
  • Ochr y dwyrain:  o bwynt 53 metr i’r gogledd dwyrain o’i chyffordd â Rowen Road, Sgriven i’w chyffordd â’r B5279 Ffordd Tal y Cafn i Tyn y Groes

Hillside, Dolgarrog

  • Y ddwy ochr:  o bwynt 45 metr i’r gorllewin o’i chyffordd â Ffordd Conwy am bellter o 27 metr i gyfeiriad y gorllewin, ac yna i gyfeiriad y de

Atodlen 2 - Cyfyngu amser aros i 120 munud, 8am tan 7pm, heb hawl i ddychwelyd o fewn 120 munud

Ffordd Conwy, Dolgarrog

  • Ochr y gorllewin:  o bwynt 1 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Clark Street am bellter o 21 metr i gyfeiriad y gogledd.
  • Ochr y gorllewin:  o bwynt 5 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Clark Street am bellter o 65 metr i gyfeiriad y de

 

Dyddiedig:  14 Rhagfyr 2022

CeriWilliamsSignature

Ceri Williams
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol

Tudalen Nesaf: Gorchymyn

end content