start content

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Ffyrdd Amrywiol Llandudno) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros) 2023 – Rhan 2

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy  wedi gwneud y Gorchymyn a enwir uchod o dan Adrannau 1 a 2 o Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984 y bydd ei effaith yn gwahardd cerbydau rhag aros ar unrhyw adeg ar y darnau o ffordd a nodir yn yr Atodlen isod.Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn a'r cynllun a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2024 ar wefan y Cyngor.

Os ydych am gwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn neu unrhyw ddarpariaeth ynddo ar y sail nad yw o fewn y pwerau a roddir gan Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad o’r Ddeddf honno neu unrhyw offeryn a wnaed oddi tani, o ran y Gorchymyn, gallwch wneud cais i’r Uchel Lys at y diben hwn, cyn pen chwe wythnos o’r dyddiad hwn.

Atodlen (Dim aros ar unrhyw adeg)

Church Walks

  • Ochr y gogledd-orllewin; o bwynt 22 metr i’r gorllewin o’i chyffordd gydag Abbey Road am bellter o 39 tua’r dwyrain.

Church Walks

  • Ochr y de; o bwynt 5 metr i’r gorllewin o’i chyffordd â Vadre Lane am 10 metr i gyfeiriad y dwyrain.

Vadre Lane

  • Y ddwy ochr;  o’i chyffordd gyda Church Walks am bellter o 5 metr

Ty Gwyn Road

  • Ochr y gogledd: o bwynt 41 metr i’r gorllewin o’i chyffordd gyda Tabor Hill am bellter o 30 metr tua’r gorllewin.
  • Ochr y gogledd; o bwynt 53 metr i’r gorllewin o’i chyffordd â Tabor Hill am bellter o 7 metr i’r gorllewin.

Dyddiedig: 27 Mawrth 2024

CeriWilliamsSignature
Ceri Williams
Legal Services Manager

Tudalen Nesaf: Gorchymyn

end content