Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Amryw Ffyrdd - Terfynau Cyflymder: Hysbysiad


Summary (optional)
start content

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Amryw Ffyrdd - Terfynau Cyflymder) 2023

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi  gwneud y Gorchymyn a enwir uchod o dan Adran 84(1) a (2) Deddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984 a’i effaith fydd cadw’r terfyn cyflymder 30mya presennol ar y rhannau hynny o’r ffyrdd a nodir yn Atodlen 1, gosod terfyn cyflymder 30mya ar y ffyrdd a nodir yn Atodlen 2 a gosod terfyn cyflymder 40mya ar y ffyrdd a nodir yn Atodlen 3.  Dirymir yn rhannol y Gorchmynion hynny a nodir yn Atodlen 4. Dirymir y Gorchmynion yn Atodlen 5 a bydd y ffyrdd dan sylw’n dychwelyd i fod yn ffyrdd cyfyngedig â therfyn cyflymder 20mya.  Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn a'r cynlluniau, a daeth i rym ar 18 Medi 2023 ar wefan y Cyngor.

Os ydych am gwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn neu unrhyw ddarpariaeth ynddo ar y sail nad yw o fewn y pwerau a roddir gan Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad o’r Ddeddf honno neu unrhyw offeryn a wnaed oddi tani, o ran y Gorchymyn, gallwch wneud cais i’r Uchel Lys at y diben hwn, cyn pen chwe wythnos o’r dyddiad hwn.

Atodlen 1 – terfyn cyflymder 30mya

A470 Cylchfan Marl Lane Ffordd y Cymry Brenhinol 

  • O bwynt 50 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Marl Lane at bwynt 40 metr i’r de o’r gyffordd honno

A470 Cylchfan Narrow Lane Ffordd y Cymry Brenhinol 

  • O bwynt 70 metr i’r gorllewin o’i chyffordd â Narrow Lane at bwynt 60 metr i’r dwyrain o’r gyffordd honno

A470 Cylchfan Black Cat Ffordd y Cymry Brenhinol 

  • O bwynt 27 metr i’r gogledd o’i chyffordd â chylchfan Black Cat yr A55 at y gyffordd honno

A547 Ffordd Conwy, Cyffordd Llandudno 

  • O bwynt 57 metr i’r gogledd o’i chyffordd â chylchfan Black Cat yr A55 at y gyffordd honno

A546 Ffordd Glan y Môr Deganwy 

  • O bwynt 100 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Tŷ Mawr Road at ei chyffordd â New Road

A546 New Road Deganwy/Cyffordd Llandudno

  • Ar ei hyd

A546 Ffordd 6G, Cyffordd Llandudno

  • Ar ei hyd

A547 Ffordd Conwy, Conwy 

  • O’i chyffordd â Ffordd 6G/New Road at bwynt 97m i’r dwyrain o’i chyffordd â’r bont grog

Crogfryn Lane, Llanrhos

  • O’i chyffordd â’r A470 Wormhout Way/Ffordd y Cymry Brenhinol at ei chyffordd â’r B5115 Pentywyn Road Llanrhos

Gloddaeth Lane, Llanrhos

  • O’i chyffordd â’r A470 Wormhout Way/Ffordd y Cymry Brenhinol am bellter o 45 metr i’r dwyrain

B5115 Pentywyn Road, Llanrhos 

  • O bwynt i’r de o’i chyffordd â St Anne’s Gardens am bellter o tua 285 metr i’r de

A470 Wormhout Way, Llanrhos 

  • O bwynt 106 metr i’r gogledd o’i chyffordd â chylchfan Gloddaeth Lane at bwynt 55 metr i’r de o’r gyffordd honno

B5115 Penrhyn Hill, Ochr y Penrhyn 

  • Ochr y gorllewin: o bwynt 15 metr i'r gogledd-orllewin o'i chyffordd â Hen Ffordd Penrhyn at ei chyffordd â Ffordd Colwyn
  • Ochr y dwyrain: o’i chyffordd â Ffordd Colwyn at ei chyffordd gylchfan â Ffordd Llandudno

Bryn y Bia Road, Ochr y Penrhyn 

  • O’i chyffordd â Ffordd Colwyn at bwynt i’r dwyrain o’i chyffordd â Pendre Road, pellter o 47 metr

Ffordd Colwyn, Ochr y Penrhyn 

  • O'i chyffordd â Penrhyn Hill i’r gogledd-orllewin am bellter o 105 metr

A547 Ffordd Rhuddlan

  • O bwynt 102 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â’r A55 at bwynt 27 metr i’r gorllewin o’r gyffordd honno

A543 Groes, Bylchau

  • O bwynt 210 metr i’r gorllewin o’i chroesffordd â Ffordd Henllan i Groes a Nant-yr-Hengoed, i’r gorllewin at ei chyffordd â Tŷ Mawr, pellter o tua 610 metr

A548 Ffordd Towyn, Towyn

  • O’i chyffordd â chilfan Henllys i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain at bwynt 58 metr i’r gorllewin o’i chyffordd â Rhodfa'r Morfa

Cilfan Henllys, Towyn

  • Ar ei hyd

Kings Drive, Bae Colwyn

  • O’i chyffordd â’r Hen Ffordd Fawr at bwynt 15 metr i’r de o’i ffin â Llys Argoed

A544 rhwng Llanfairtalhaiarn a Llansannan 

  • O’r gyffordd â’r A548 rhwng Abergele a Llanrwst hyd bwynt 160 metr i’r de o’r gyffordd â Ffordd Dinbych

Atodlen 2 – terfyn cyflymder 30mya

A470 Ffordd Conwy, Llandudno 

  • Dwy ochr y ffordd ddeuol o’i chyffordd â chylchfan Queen’s Road at bwynt 60 metr i’r de o’i chyffordd â Maesdu Road

B5115 Ffordd Conwy, Llanrhos 

  • O’i chyffordd â chylchfan Queen’s Road at bwynt 270 metr i’r de o St Anne’s Gardens

Atodlen 3 – terfyn cyflymder 40mya

A470 Ffordd y Cymry Brenhinol

  • O bwynt 70 metr i’r gorllewin o’i chyffordd â Narrow Lane at bwynt 40 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â chylchfan Marl Lane

Atodlen 4 – Dirymu’n Rhannol

Ffordd Colwyn / The Parade Craig-y-don 

  • O bwynt 230 metr i’r dwyrain o Nant y Gamar Road o’i chyffordd â Vaughan Street

B5115 Pentywyn Road

  • O’i chyffordd â Bwlch Farm at y Cae Chwarae, tua 193 metr i’r de-orllewin o’i chyffordd â Marl Lane

B5115 Ffordd Colwyn, Llandudno 

  • O bwynt 230 metr i’r dwyrain o Nant y Gamar Road at bwynt 20 metr i’r dwyrain o’i chyffordd ag Ael y Bryn

A543 Groes

  • O bwynt 125 metr i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â’r B5428 at bwynt 10 metr i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â Tŷ Mawr Road am bellter o tua 940 metr

B5115 Ffordd Colwyn, Llandudno 

  • O bwynt 105 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Bryn y Bia Road at y gyffordd â Penrhyn Old Road

A470 / B5115 Ffordd Conwy, Llandudno 

  • O bwynt 64 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Maesdu Road at bwynt 600 metr i’r gogledd o Ffordd Bryn Lupus

B5115 Pentywyn Road, Deganwy 

  • O bwynt 45 metr i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â Tan y Fron at bwynt 10 metr i’r gogledd-ddwyrain o fynedfa Bwlch Farm

A470 Ffordd y Cymry Brenhinol 

  • O bwynt 70 metr i’r gorllewin o’i chyffordd â Narrow Lane at bwynt 60 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â chylchfan Marl Lane

Ffordd Bwlch Sychnant

  • O bwynt 85 metr i’r gorllewin o Barc Sychnant am bellter 100 metr i’r gorllewin.

Atodlen 5 – Dirymu Gorchmynion Terfynau Cyflymder 30mya

  • Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Terfyn Cyflymder 30mya Gors Road, Towyn) 2019
  • Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Terfyn Cyflymder 30mya Ysgol Cerrigydrudion) 2017
  • Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Church Street a Primrose Hill, Llansan Siôr, Abergele) (Terfyn Cyflymder 30mya) 2011
  • Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Llanrwst A547 o Fae Colwyn i Fryn y Maen) (Terfyn Cyflymder 30mya) 2011
  • Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Lôn Gloddaeth, Bae Penrhyn) (Terfyn Cyflymder 30mya) 2019 (a Gorchymyn Diwygio 2021)

Dyddiad: 20 Medi 2023

CeriWilliamsSignature
Ceri Williams
Legal Services Manager

Tudalen Nesaf: Gorchymyn

end content