Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Amryw Ffyrdd - Terfynau Cyflymder: Datganiad o Resymau


Summary (optional)
start content

Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Ffyrdd Amrywiol Terfyn Cyflymder) 2023

Datganiad o Resymau

Cafodd deddfwriaeth i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd cyfyngedig o 30mya i 20mya ei wneud gan Weinidogion Cymru ar 13 Gorffennaf 2022 er mwyn lleihau nifer a difrifoldeb y gwrthdrawiadau ac anafiadau; galluogi mwy o bobl i deithio’n llesol; lleihau’r effaith ar yr amgylchedd a gwella ansawdd bywydau pobl mewn cymunedau ledled Cymru.

Bydd y terfyn cyflymder 20mya diofyn newydd ar ffyrdd lle mae system o oleuadau stryd yn dod i rym ar 17 Medi 2023. O’r dyddiad hwnnw ymlaen bydd gan bob ffordd gyfyngedig derfyn cyflymder 20mya oni bai bod yr awdurdod priffyrdd yn pennu terfyn cyflymder gwahanol drwy Orchymyn.

Mae’r adrannau presennol o rwydwaith ffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n destun 30mya ar hyn o bryd, wedi cael ei asesu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel yr awdurdod traffig, er mwyn sefydlu os ydynt yn bodloni’r meini prawf eithriadau i aros yn 30mya.

Mae’r adrannau o briffordd a nodir yn Atodlen 1 y Gorchymyn arfaethedig wedi cael eu hasesu; maent yn bodloni’r meini prawf eithriadau a nodir yn y canllawiau ac mae’r Cyngor yn cynnig terfyn cyflymder 30mya trwy orchymyn.

Mae adran o’r briffordd a nodir yn Atodlen 2 y gorchymyn arfaethedig wedi cael ei asesu; am resymau diogelwch ffordd er mwyn osgoi perygl i bobl neu draffig eraill ac i ddarparu cysondeb gwell mae’r Cyngor yn cynnig terfyn cyflymder 30mya trwy orchymyn.

Mae adran o’r briffordd a nodir yn Atodlen 3 y gorchymyn arfaethedig wedi cael ei asesu ac am resymau diogelwch ffordd er mwyn osgoi perygl i bobl neu draffig eraill ac i ddarparu cysondeb gwell mae’r Cyngor yn cynnig terfyn cyflymder 40mya trwy orchymyn.

Mae’r adrannau o briffordd a nodir yn Atodlen 4 y gorchymyn arfaethedig wedi cael ei asesu ac mae angen dirymiad rhannol o orchmynion terfyn cyflymder blaenorol.

Mae’r adrannau o briffordd a nodir yn Atodlen 5 y gorchymyn arfaethedig wedi cael ei asesu ac mae angen dirymiad rhannol o orchmynion terfyn cyflymder blaenorol.

Tudalen Nesaf: Hysbysiad

end content