GORCHYMYN BWRDEISTREF SIROL CONWY (MANNAU PARCIO I UNIGOLION AG ANABLEDD) (RHIF 1) 2025
Yn unol â'i bwerau dan Adrannau 1, 2 a 4 a Rhan IV Atodlen 9 Deddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati wedi hyn fel "Deddf 1984"), a'r holl bwerau galluogi eraill, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III Atodlen 9 Deddf 1984, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y cyfeirir ato wedi hyn fel "y Cyngor") drwy hyn, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:-
1. Bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar dwy fil a phump ar hugain, a gellir cyfeirio ato fel "Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Mannau Parcio i Unigolion ag Anabledd) (Rhif 1) 2025."
2. (1) Yn y Gorchymyn hwn:- ystyr "man parcio wedi’i awdurdodi" yw unrhyw le parcio ar ffordd sydd wedi’i awdurdodi neu ei neilltuo drwy Orchymyn a wnaed, neu sydd â’r un effaith â phetai wedi’i wneud dan Ddeddf 1984;
yr un ystyr sydd i "bathodyn unigolyn ag anabledd" a’r ystyr yn Rheoliadau Unigolion Gydag Anabledd (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2002;
yr un ystyr sydd i "disg parcio" a’r ystyr yn Rheoliad 8 Rheoliadau Gorchmynion Trafnidiaeth Awdurdodau Lleol (Eithriadau ar gyfer Unigolion Gydag Anabledd) (Cymru) 2000;
(2) I bwrpas y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos bathodyn unigolyn ag anabledd yn y lle perthnasol os:
(a) yw'r bathodyn yn ddilys; a
(b) (i) bod y bathodyn yn cael ei arddangos ar forden flaen neu ddangosfwrdd y cerbyd, gan sicrhau y gellir gweld Rhan 1 y bathodyn o ymyl y ffordd, neu
(ii) os nad oes gan y cerbyd forden flaen neu ddangosfwrdd, bod y bathodyn yn cael ei arddangos ar ran amlwg o'r cerbyd, gan sicrhau y gellir gweld Rhan 1 y bathodyn o ymyl y ffordd.
(3) I bwrpas y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos disg parcio yn y lle perthnasol os:
(a) os yw’n bosibl gweld o ymyl y ffordd yr ochr o’r ddisg sy'n dangos y chwarter awr pan ddechreuodd y cyfnod aros.
(4) Ac eithrio lle nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at Erthygl neu Atodlen wediu rhifo yn gyfeiriad at yr Erthygl neu Atodlen sydd â'r rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.
3. Ac eithrio’r hyn a ddarperir yn Erthygl 4 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw un, oni bai ei fod yn gweithredu dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu Swyddog Gorfodaeth Sifil mewn iwnifform, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar
unrhyw adeg ar y darnau ffordd a nodir yn Atodlen 1 y Gorchymyn hwn, oni bai bod y cerbyd yn arddangos bathodyn unigolyn gydag anabledd a thrwydded preswylydd.
4. Ac eithrio’r hyn a ddarperir yn Erthygl 3 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw un, oni bai ei fod yn gweithredu dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd Cwnstabl Heddlu neu Swyddog Gorfodaeth Sifil mewn iwnifform, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar y darnau o ffordd y cyfeirir atynt yma am gymaint o amser ag sydd ei angen i alluogi:
(a) i'r cerbyd gael ei ddefnyddio, os na ellir ei ddefnyddio'n hwylus at ddibenion o'r fath ar unrhyw ffordd arall, i wneud y canlynol, sef:
(i) gwaith adeiladu, diwydiannol neu ddymchwel.
(ii) cael gwared ar unrhyw rwystr i drafnidiaeth.
(iii) cynnal, gwella neu ail adeiladu'r darnau o ffordd y cyfeirir atynt.
(iv) gosod, adeiladu, addasu neu drwsio unrhyw bibell garthffos neu brif biben neu offer ar gyfer darparu nwy, dŵr, trydan neu unrhyw offer telegyfathrebu, fel y caiff ei ddiffinio yn Neddf Telegyfathrebu 1984, ar dir neu dir sy'n gyfagos i'r darnau o ffordd y cyfeirir atynt.
(b) i'r cerbyd gael ei ddefnyddio, os na ellir ei ddefnyddio'n hwylus at ddibenion o'r fath ar unrhyw ffordd arall, at wasanaeth yr awdurdod lleol neu gwmni gwasanaeth cyhoeddus, yn unol â phwerau neu ddyletswyddau statudol.
(c) cerbyd darparwyr gwasanaeth cyffredinol dan Adran 125 Deddf Gwasanaethau Post 2000.
5. Mae Gorchymyn Cadarnhau (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llefydd Parcio ar y Stryd) 2006 Bwrdeistref Sirol Conwy yn cael ei ddirymu i'r graddau y mae'n ymwneud â'r lleoliad a nodir yn Atodlen 2 o'r Gorchymyn hwn yn unig a bydd yn parhau i fod mewn grym llawn fel arall
6. Mae Gorchymyn (Gofodau Parcio ar y Stryd i Bobl Anabl) 2007 Bwrdeistref Sirol Conwy yn cael ei ddirymu i'r graddau y mae'n ymwneud â'r lleoliad a nodir yn Atodlen 2 o'r Gorchymyn hwn a bydd yn parhau i fod mewn grym llawn fel arall
7. Mae Gorchymyn (Gofodau Parcio ar y Stryd i Bobl Anabl) 2010 Bwrdeistref Sirol Conwy yn cael ei ddirymu i'r graddau y mae'n ymwneud â'r lleoliad a nodir yn Atodlen 2 o'r Gorchymyn hwn a bydd yn parhau i fod mewn grym llawn fel arall
8. Mae Gorchymyn (Gofodau Parcio ar y Stryd i Bobl Anabl) 2018 Bwrdeistref Sirol Conwy yn cael ei ddirymu i'r graddau y mae'n ymwneud â'r lleoliad a nodir yn Atodlen 2 o'r Gorchymyn hwn a bydd yn parhau i fod mewn grym llawn fel arall
9. Mae Gorchymyn (Gofodau Parcio ar y Stryd i Bobl Anabl) 2022 Bwrdeistref Sirol Conwy yn cael ei ddirymu i'r graddau y mae'n ymwneud â'r lleoliad a nodir yn Atodlen 2 o'r Gorchymyn hwn a bydd yn parhau i fod mewn grym llawn fel arall
10.Mae Gorchymyn (Gofodau Parcio ar y Stryd i Bobl Anabl) 2013 Bwrdeistref Sirol Conwy yn cael ei ddirymu i'r graddau y mae'n ymwneud â'r lleoliad a nodir yn Atodlen 2 o'r Gorchymyn hwn a bydd yn parhau i fod mewn grym llawn fel arall
11.Mae Gorchymyn (Gofodau Parcio ar y Stryd i Bobl Anabl) 2011 Bwrdeistref Sirol Conwy yn cael ei ddirymu i'r graddau y mae'n ymwneud â'r lleoliad a nodir yn Atodlen 2 o'r Gorchymyn hwn a bydd yn parhau i fod mewn grym llawn fel arall
12.Mae Gorchymyn (Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Promenâd Llanfairfechan) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros) 2025 yn cael ei ddirymu i'r graddau y mae'n ymwneud â'r lleoliad a nodir yn Atodlen 2 o'r Gorchymyn hwn a bydd yn parhau i fod mewn grym llawn fel arall
13. Mae’r gwaharddiad a’r cyfyngiadau a bennir drwy’r Gorchymyn hwn yn ychwanegol at unrhyw gyfyngiad, gwaharddiad neu ofyniad bennir drwy unrhyw reoliadau a wnaed neu sy’n cael effaith fel pe baent wedi’u gwneud dan Ddeddf 1984, neu drwy neu o dan unrhyw ddeddfiad arall, ac nid yn rhanddirymiad iddynt.
RHODDWYD dan Sêl Gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar Dwy fil a phump ar hugain
Atodlen 1 (Deiliaid trwydded preswylydd anabl yn unig)
3 Cae Bronydd, Llanrwst |
Ochr y dwyrain: o bwynt 108 metr i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â Ffordd Talybont am bellter o 6.6m tua’r gogledd-ddwyrain |
7 Wyddfyd Road, Llandudno |
Ochr y gogledd: o bwynt 62 metr i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â Tŷ Gwyn Road, am bellter o 6.6 metr tua’r gogledd-ddwyrain |
17 Broad Street, Cyffordd Junction |
Ochr y gorllewin: o bwynt 79 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Conway Road am bellter o 6.6 metr tua’r gogledd |
60 Park Road, Bae Colwyn |
Ochr y de: o bwynt 11 metr i’r dwyrain o’r gyffordd â’r ffordd fynedfa sy’n arwain at gefn Park Road am bellter o 6.6 metr tua’r dwyrain |
50 Cae Person, Llanrwst |
Ochr y dwyrain: o bwynt 16 metr i’r de-orllewin o’i chyffordd â Cae Person am bellter o 6.6 metr tua’r de-orllewin |
2 Meirion Gardens, Bae Colwyn |
Ochr y gogledd: o bwynt 13 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd gyda Ffordd Abergele am bellter o 6.6 metr tua’r de-ddwyrain |
Flat 9 3-5 Mostyn Avenue, Craig y Don, Llandudno |
Ochr y de: o bwynt 24 metr i’r gorllewin o’r gyffordd gyda Clarence Road am bellter o 6.6 metr tua’r dwyrain |
2 Kyffin Close, Hen Golwyn |
Ochr y gorllewin: ochr orllewinol maes parcio wedi’i leoli ar Kyffin Close am bellter o 6.6 metr tua’r de |
36 Ddol Ddu, Hen Golwyn |
Ochr y de: o bwynt 15 metr i’r gorllewin o’r gyffordd gyda Ddol Ddu am bellter o 6.6 metr tua’r dwyrain |
Dromana Promenâd Llanfairfechan |
Ochr y de: o bwynt 60 metr i’r dwyrain o Lôn Fynedfa Ganolog y Promenâd rhwng eiddo a elwir yn Balmoral a Kingston am oddeutu 6.6 metr tua’r dwyrain |
Atodlen 2 (Dirymiadau)
11 Hillside Road, Bae Colwyn |
Ochr y de-orllewin: tu allan i eiddo rhif 11 |
12 Princess Road, Hen Golwyn |
Ochr y dwyrain: tu allan i eiddo rhif 12 |
23 Clarence Road, Craig y Don, Llandudno |
Ochr y dwyrain: tu allan i eiddo rhif 23 |
40 Pen y Bryn, Hen Golwyn |
Ochr y gorllewin: tu allan i eiddo rhif 40 |
54 Ffordd Bugail, Bae Colwyn |
Ochr y dwyrain: tu allan i eiddo rhif 54 |
57 Penrhyn Avenue, Llandrillo-yn-Rhos |
Ochr y de: tu allan i eiddo rhif 57 |
25 Gloddaeth Street, Llandudno |
Ochr y de-ddwyrain: tu allan i eiddo rhif 25 |
41 Grange Road, Bae Colwyn |
Ochr y gogledd-ddwyrain: tu allan i eiddo rhif 41 |
2 Balfour Road, Craig y Don, Llandudno |
Ochr y de: tu allan i eiddo rhif 2 |
Fflat 5, 7 Rhodfa'r De, Pensarn |
Ochr y gogledd: tu allan i eiddo rhif 7 |
Promenâd Llanfairfechan |
Ochr y de: o bwynt 66 metr i’r dwyrain o Lôn Fynedfa Ganolog y Promenâd rhwng eiddo a elwir yn Balmoral a Kingston am oddeutu 17 metr tua’r dwyrain |
Gosodwyd SÊL GYFFREDIN CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CONWY yma yng ngwydd:
Swyddog Selio Awdurdodedig.
Tudalen Nesaf: Mapiau