Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Mannau Parcio I Unigolion Ag Anabledd - Hysbysiad


Summary (optional)

Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn bwriedig yw:

  • Hwyluso parcio ar gyfer preswylwyr ag anabledd a deiliaid bathodyn anabledd
start content

Cyf: CCBC - 050056

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Mannau Parcio i Unigolion ag Anabledd) (Rhif 1) 2025

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn bwriadu gwneud Gorchymyn dan Adrannau 1, 2 a 4 a Rhan IV Atodlen 9, Deddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984, a fydd yn dynodi'r darnau o ffordd a nodwyd yn Atodlen 1 fel Gofod Parcio i Bobl Anabl i'w ddefnyddio gan gerbydau sy'n arddangos Bathodyn Anabl dilys a Thrwydded Preswylydd yn unig, a dirymu’r cyfyngiadau a nodwyd yn Atodlen 2.

Bydd y Gorchymyn arfaethedig yn cynnwys eithriadau a fydd yn caniatáu aros er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw, gwaith trwsio ac ati. Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn arfaethedig, ynghyd â map sy’n dangos y darn ffordd y mae'r Gorchymyn yn berthnasol iddynt, a datganiad o resymau'r Cyngor dros wneud y Gorchymyn arfaethedig yn Swyddfeydd y Cyngor Coed Pella Bae Colwyn, Llyfrgell Llandudno, Llanfairfechan, Llanrwst a Conwy ac ar wefan y Cyngor.

Dylid anfon unrhyw wrthwynebiadau i'r Gorchymyn arfaethedig, ynghyd â'r rhesymau drostynt, ar bapur at yr Adran Draffig, yr Amgylchedd Ffyrdd a Chyfleusterau, Blwch Post 1 Bae Colwyn LL29 0GG neu at grt@conwy.gov.uk erbyn 3 Hydref 2025.

Atodlen 1 (Deiliaid trwydded preswylydd anabl yn unig)

3 Cae Bronydd, Llanrwst   Ochr y dwyrain: o bwynt 108 metr i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â Ffordd Talybont am bellter o 6.6m tua’r gogledd-ddwyrain
7 Wyddfyd Road, Llandudno  Ochr y gogledd: o bwynt 62 metr i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â Tŷ Gwyn Road, am bellter o 6.6 metr tua’r gogledd-ddwyrain
17 Broad Street, Cyffordd Junction  Ochr y gorllewin: o bwynt 79 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Conway Road am bellter o 6.6 metr tua’r gogledd
60 Park Road, Bae Colwyn Ochr y de: o bwynt 11 metr i’r dwyrain o’r gyffordd â’r ffordd fynedfa sy’n arwain at gefn Park Road am bellter o 6.6 metr tua’r dwyrain
50 Cae Person, Llanrwst  Ochr y dwyrain: o bwynt 16 metr i’r de-orllewin o’i chyffordd â Cae Person am bellter o 6.6 metr tua’r de-orllewin
2 Meirion Gardens, Bae Colwyn Ochr y gogledd: o bwynt 13 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd gyda Ffordd Abergele am bellter o 6.6 metr tua’r de-ddwyrain
Flat 9 3-5 Mostyn Avenue, Craig y Don, Llandudno  Ochr y de: o bwynt 24 metr i’r gorllewin o’r gyffordd gyda Clarence Road am bellter o 6.6 metr tua’r dwyrain
2 Kyffin Close, Hen Golwyn   Ochr y gorllewin: ochr orllewinol maes parcio wedi’i leoli ar Kyffin Close am bellter o 6.6 metr tua’r de
36 Ddol Ddu, Hen Golwyn  Ochr y de: o bwynt 15 metr i’r gorllewin o’r gyffordd gyda Ddol Ddu am bellter o 6.6 metr tua’r dwyrain
Dromana Promenâd Llanfairfechan Ochr y de: o bwynt 60 metr i’r dwyrain o Lôn Fynedfa Ganolog y Promenâd rhwng eiddo a elwir yn Balmoral a Kingston am oddeutu 6.6 metr tua’r dwyrain

 

Atodlen 2 (Dirymiadau)

11 Hillside Road, Bae Colwyn Ochr y de-orllewin: tu allan i eiddo rhif 11 
12 Princess Road, Hen Golwyn   Ochr y dwyrain: tu allan i eiddo rhif 12
23 Clarence Road, Craig y Don, Llandudno  Ochr y dwyrain: tu allan i eiddo rhif 23  
40 Pen y Bryn, Hen Golwyn   Ochr y gorllewin: tu allan i eiddo rhif 40 
54 Ffordd Bugail, Bae Colwyn Ochr y dwyrain: tu allan i eiddo rhif 54 
57 Penrhyn Avenue, Llandrillo-yn-Rhos Ochr y de: tu allan i eiddo rhif 57 
25 Gloddaeth Street, Llandudno  Ochr y de-ddwyrain: tu allan i eiddo rhif 25 
41 Grange Road, Bae Colwyn Ochr y gogledd-ddwyrain: tu allan i eiddo rhif 41 
2 Balfour Road, Craig y Don, Llandudno  Ochr y de: tu allan i eiddo rhif 2
Fflat 5, 7 Rhodfa'r De, Pensarn Ochr y gogledd: tu allan i eiddo rhif 7
Promenâd Llanfairfechan  Ochr y de: o bwynt 66 metr i’r dwyrain o Lôn Fynedfa Ganolog y Promenâd rhwng eiddo a elwir yn Balmoral a Kingston am oddeutu 17 metr tua’r dwyrain

 

Dyddiedig: 10 Medi 2025

MattGeorgiou

M Georgiou
Pennaeth y Gyfraith a Llywodraethu

Tudalen Nesaf: Gorchymyn

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content