Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ffordd Tan yr Ysgol, Llanrwst - Gwahardd Aros: hysbysiad


Summary (optional)
Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn bwriedig yw
  • Cynnal llif traffig yn rhydd a gwella diogelwch ar y ffyrdd
start content

Cyfeirnod: CCBC - 046156

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Ffordd Tan yr Ysgol, Llanrwst) (Gwahardd Aros) 2023


Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan Adrannau 1 a 2 o Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984, y bydd ei effaith yn gwahardd cerbydau rhag aros ar unrhyw adeg ar y darn hwnnw o Ffordd Tan yr Ysgol Llanrwst o bwynt 61 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Heol Ddinbych am bellter o 35 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain.

Bydd eithriadau’n cael eu darparu yn y Gorchymyn arfaethedig er mwyn caniatáu aros i bwrpas dod allan o gerbyd, mynd i mewn i gerbyd, llwytho, dadlwytho a gwaith cynnal a chadw, trwsio ac yn y blaen.  Bydd eithriadau yn y Gorchymyn arfaethedig hefyd i ganiatáu i gerbydau sy'n arddangos Bathodyn Person Anabl a Disg Parcio i Bobl Anabl.

Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn arfaethedig, ynghyd â map sy’n dangos y darn ffordd y mae'r Gorchymyn yn berthnasol a datganiad o resymau'r Cyngor dros wneud y Gorchymyn arfaethedig yn Swyddfeydd y Cyngor Coed Pella Bae Colwyn, Llyfrgell Llanrwst ac ar wefan y Cyngor.

Dylid anfon unrhyw wrthwynebiadau i'r Gorchymyn arfaethedig, ynghyd â'r rhesymau drostynt, ar bapur at yr Adran Draffig, yr Amgylchedd Ffyrdd a Chyfleusterau, Blwch Post 1 Conwy LL30 9GN neu at traffig@conwy.gov.uk erbyn 12 Mai 2023.

Dyddiedig:  19 Ebrill 2023

CeriWilliamsSignature

Ceri Williams
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol


Tudalen Nesaf:  Gorchymyn

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content