Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ffordd Tan yr Ysgol, Llanrwst - Gwahardd Aros: Gorchymyn


Summary (optional)
Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn bwriedig yw:-
  • i wella diogelwch ar y ffyrdd ac sicrhau llif esmwyth traffig.
start content

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Ffordd Tan yr Ysgol, Llanrwst) (Gwahardd Aros) 2023


Yn unol â'i bwerau dan Adrannau 1 a 2, Deddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel "Deddf 1984"), a'r holl bwerau galluogi eraill, ac ar ôl ymgynghori efo Prif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III Atodlen 9 Deddf 1984, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel "y Cyngor") yn gwneud drwy hyn y Gorchymyn canlynol:-

  • 1.  Bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar y         dydd o                        dwy fil a thair ar hugain a gellir cyfeirio ato fel "Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Ffordd Tan Yr Ysgol, Llanrwst) (Gwahardd ar Aros) 2023."

  • 2.  
    • (1)  Yn y Gorchymyn hwn:-

      mae "safle tacsis awdurdodedig" yn golygu unrhyw ran o ffordd gerbydau sydd wedi ei chynnwys oddi mewn i farc ffordd sy'n cydymffurfio â diagram 1028.2 yn Atodlen 6 Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Trafnidiaeth Ffyrdd 2016;

      mae "lle parcio awdurdodedig" yn golygu unrhyw le parcio, ar ffordd, sydd wedi ei awdurdodi neu wedi ei ddynodi gan Orchymyn sydd wedi ei wneud dan Ddeddf 1984;

      mae "safle bysiau" yn golygu unrhyw ddarn o ffordd gerbydau a ddynodir mewn unrhyw Erthygl neu Atodlen i'r Gorchymyn hwn fel un sydd wedi ei fwriadu ar gyfer aros gan fysiau sydd wedi ei gynnwys oddi mewn i farc ffordd sy'n cydymffurfio â diagram 1025.1, 1025.3 neu 1025.4 yn Atodlen 6 Rheoliadau Arwyddion Trafnidiaeth a Chyfarwyddiadau Cyffredinol 2016;

      mae gan "cerbyd hacni" yr un ystyr â’r hyn sydd yn Adran 38(1) Deddf Cerbydau (Tollau) 1971;

      mae gan "bathodyn unigolyn gydag anabledd" yr un ystyr â’r hyn sydd yn Rheoliadau Pobl Gydag Anabledd (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000;

      mae gan "disg parcio" yr un ystyr â’r hyn sydd yn Rheoliad 8 Rheoliadau Gorchmynion Trafnidiaeth Awdurdodau Lleol (Esgusodiadau ar gyfer Pobl Gydag Anabledd) (Cymru) 2000;

    • (2)   I bwrpas y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos bathodyn unigolyn gydag anabledd yn y lle perthnasol:

      • (a)  pan nad yw'r bathodyn wedi peidio â bod mewn grym; a

      • (b)
        • (i)  pan fo'r bathodyn yn cael ei arddangos ar forden flaen neu banel deialau'r cerbyd, neu

        • (ii)  pan fo'r bathodyn yn cael ei arddangos mewn lle amlwg ar flaen neu ar ochr agos y cerbyd (os nad yw'r cerbyd wedi ei ffitio â borden flaen neu banel deialau), fel bod modd darllen blaen y bathodyn yn glir o'r tu allan i'r cerbyd.

    • (3)  I bwrpas y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos disg parcio yn y lle perthnasol:

        • (a)  pan fo'r disg yn cael ei arddangos ar forden flaen neu banel deialau'r cerbyd, neu

        • (b)  pan fo'r disg yn cael ei arddangos mewn man amlwg ar y cerbyd, os nad yw'r cerbyd wedi ei ffitio â borden flaen neu banel deialau.

    • (4)  Ac eithrio lle nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at Erthygl neu Atodlen rifedig yn gyfeiriad at yr Erthygl neu Atodlen sydd â'r rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.

  • 3.  Ac eithrio fel y darperir yn Erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn ni chaiff neb, ac eithrio ar gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu swyddog gorfodi sifil mewn lifrai, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar unrhyw adeg ar y darn  ffordd a nodir yn yr Atodlen isod.

  • 4.
    • (1)  Ni fydd unrhyw beth yn Erthygl 3 y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon i achosi neu ganiatáu i unrhyw gerbyd aros ar y darnau ffordd a gyfeirir atynt yn yr Erthyglau hynny, am gyhyd ag y bydd angen i ganiatáu:-

      • (a)  Unigolyn i fynd i mewn i gerbyd neu ddod allan ohono.

      • (b)  Nwyddau i gael eu llwytho ar y cerbyd neu gael eu dadlwytho oddi arno.

      • (c)  defnyddio’r cerbyd, os nad oes modd ei ddefnyddio'n hwylus i bwrpas o'r fath ar unrhyw ffordd arall, mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r gweithgareddau canlynol, sef:-

        • (i)  Gweithrediadau adeiladu, dymchwel neu ddiwydiannol.

        • (ii)  Symud unrhyw rwystr ar draffig.

        • (iii)  Cynnal, gwella neu ailadeiladu'r darn[au] ffordd dan sylw.

        • (iv)  Gosod, codi, newid, neu atgyweirio, ar dir cyfagos i’r darn(au) ffordd dan sylw, unrhyw garthffos, neu unrhyw brif bibell neu gyfarpar cyflenwi nwy, dŵr neu drydan, neu unrhyw offer telegyfathrebu fel y mae'r rheiny'n cael eu diffinio yn Neddf Telegyfathrebu 1984.

      • (d)  Galluogi i'r cerbyd gael ei ddefnyddio, os nad oes modd ei ddefnyddio'n hwylus i bwrpas o'r fath ar unrhyw ffordd arall, at wasanaeth awdurdod lleol neu gwmni gwasanaeth cyhoeddus, yn unol â phwerau neu ddyletswyddau statudol.

      • (e)  Cerbyd darparwr gwasanaeth cyffredinol dan Adran 125 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000.

      • (f)  Galluogi'r cerbyd i aros gerbron neu yn agos at unrhyw adeilad sydd wedi ei leoli ar y darn[au] ffordd dan sylw neu'n gyfagos iddynt, am gyhyd ag y bydd angen rhesymol i'r cerbyd hwnnw aros yno mewn cysylltiad ag unrhyw briodas neu gynhebrwng.

      • (g)  Galluogi i'r cerbyd gael ei ddefnyddio i bwrpasau’r frigâd dân, yr heddlu neu ambiwlans.

    • (2)  Ni chaiff unrhyw beth yn Erthygl 3 y Gorchymyn hwn ei gwneud yn anghyfreithlon i achosi neu ganiatáu i gerbyd person anabl sy’n arddangos Bathodyn Person Anabl a disg parcio mewn lle perthnasol (y mae’r gyrrwr neu berson arall sy’n gyfrifol am y cerbyd wedi nodi amser dechrau’r cyfnod aros arno) i aros ar ran y ffordd y cyfeirir atynt yn yr Erthygl honno am gyfnod o ddim mwy na 3 awr (heb fod yn gyfnod a wahanwyd gan egwyl o lai nag 1 awr o gyfnod blaenorol o aros gan yr un cerbyd ar yr un diwrnod).

  • 5.  Pan fo unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gwrthdaro ag amod sydd wedi ei gynnwys mewn Gorchymyn sydd wedi ei wneud, neu sydd mewn grym fel pe bai wedi ei wneud, dan Ddeddf 1984, ac sydd mewn grym pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, ac sy'n gosod cyfyngiad neu waharddiad ar gerbydau heblaw bysiau neu goetsys cyflym mewn arhosfan bysiau, neu'n esgusodi rhag cyfyngiad neu waharddiad o'r fath, darpariaeth y Gorchymyn hwnnw fydd drechaf.

  • 6.  Bydd y gwaharddiadau a'r cyfyngiadau sy'n cael eu gosod gan y Gorchymyn hwn yn ychwanegol at unrhyw gyfyngiad neu amod sy'n cael ei osod gan unrhyw reoliadau sydd wedi eu gwneud dan Ddeddf 1984, neu sydd mewn grym fel pe baent wedi eu gwneud naill ai dan y Ddeddf honno neu gan unrhyw ddeddf arall, ac ni fyddant yn tynnu oddi wrtho.

 

RHODDWYD dan Sêl Gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y         dydd o        dwy fil a thair ar hugain

Atodlen

 

Dim aros ar unrhyw adeg

Ffordd Tan yr Ysgol

Y ddwy ochr:
o Ffordd Tan yr Ysgol Llanrwst o bwynt 61 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Heol Ddinbych am bellter o 35 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain.

L/01/24/22/278 

 


Tudalen Nesaf:  Map

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content