Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Cynllunio, Rheoli Adeiladu, a Chadwraeth Cadwraeth Ardaloedd Gadwraeth Cwestiynau a Ofynnir yn Aml am Ardaloedd Cadwraeth

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml am Ardaloedd Cadwraeth


Summary (optional)
start content
Beth yw Ardal Gadwraeth?
Rhoddodd Deddf Amwynderau Sifil 1969 y grym i gynghorau lleol ddynodi Ardaloedd Cadwraeth, "ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol, gyda chymeriad neu ymddangosiad y byddai'n ddymunol ei gynnal neu ei wella". Mae'r dynodiad yn rhoi rheolaeth dros ddymchwel adeiladau ac yn cynnig sail i bolisïau a chynlluniau a ddyluniwyd i gynnal neu wella'r agweddau hynny o gymeriad neu ymddangosiad sy'n diffinio diddordeb arbennig yr ardal. Maent yn cael eu dynodi fel arfer oherwydd eu hadeiladau ond gallant hefyd gael eu dynodi oherwydd eu hanes, pensaernïaeth, cynllun neu ofodau preifat, fel gerddi a pharciau; coed neu ddodrefn stryd. Mae ardaloedd cadwraeth yn rhoi sicrwydd ehangach na rhestru adeiladau unigol ac mae pob nodwedd yn yr ardal, rhestredig neu fel arall, yn cael eu cydnabod fel rhan o'i chymeriad. Mewn ardal gadwraeth mae gan y Cyngor rymoedd ychwanegol dros y pethau canlynol: Dymchwel Mae angen caniatâd ardal gadwraeth er mwyn dymchwel adeilad yn llawn, neu hyd yn oed rannau ohono. Gallwch dderbyn arweiniad a ffurflenni ymgeisio gan y Cyngor. Yn gyffredinol rydym yn ystyried cais o safbwynt ceisio cynnal adeiladau, sy'n rhan o'r cymeriad lleol felly mae angen gwneud achos cryf dros ddymchwel. Nid oes unrhyw ffioedd ar gyfer y cais hwn ac mae hawl i apelio yn erbyn gwrthod. Datblygiadau llai Mewn ardal gadwraeth, rydych weithiau angen caniatâd cynllunio ar gyfer newidiadau i adeiladau, a fyddai fel arfer yn cael eu caniatáu mewn llefydd eraill. Mae cymeriad arbennig yr ardal yn golygu bod rhaid cael rheolaeth fwy gofalus i atal addasiadau difeddwl, sy'n erydu cymeriad ardaloedd. Mewn rhai ardaloedd cadwraeth, cyflwynir rheolaeth ychwanegol gan Gyfarwyddebau Erthygl 4 neu ardaloedd rheolaeth arbennig dros hysbysebion. Mae naratif manwl y mesurau rheolaeth hyn yn golygu ei bod yn syniad i chi gysylltu â'r adran cyn dechrau gwneud gwaith os yw eich eiddo mewn ardal gadwraeth. Coed Rhaid i unrhyw un sy'n bwriadu torri coeden i lawr neu dorri rhan uchaf neu docio coeden mewn ardal gadwraeth roi rhybudd i'r Cyngor, os oes gorchymyn diogelu coed mewn grym neu beidio. Mae'r Cyngor yn ystyried y cyfraniad mae'r goeden yn ei gwneud i gymeriad yr ardal gadwraeth ac os oes angen bydd yn creu gorchymyn diogelu coeden er mwyn ei diogelu. Mae ceisiadau i dorri coed i lawr yn cael eu hasesu gan y cyngor.
Sut ydw i'n cael rhagor o wybodaeth am Ardal Gadwraeth?
Mae rhai ardaloedd cadwraeth yng Nghonwy (ond nid pob un) wedi bod yn destun astudiaethau a thaflenni yn y gorffennol. Gall Swyddogion Cadwraeth y Cyngor roi cyngor i chi ar yr hyn sydd ar gael mewn Ardaloedd Cadwraeth unigol, CynllunioPlanning@conwy.gov.uk.
Beth mae'r Cyngor yn ei wneud fel arfer mewn Ardaloedd Cadwraeth?
Mae'r Cyngor yn ymgynghori'n eang ar gynigion sy'n effeithio ar ardal gadwraeth. Gallai hyn gynnwys cynlluniau gwella o bryd i'w gilydd gan gynnwys cynigion i:
  • Baratoi briffiau datblygu ar gyfer safleoedd mewn ardaloedd cadwraeth
  • Sicrhau bod adeiladau newydd yn cyd-fynd â'u cymdogion
  • Gwneud gwelliannau amgylcheddol
  • Gwneud cynigion am arian ar gyfer gwaith amgylcheddol a chadwraeth (e.e. i Gronfa Treftadaeth y Loteri neu gyrff tebyg)
  • Rheoli hysbysebion neu ddatblygiadau drwy orchmynion arbennig
  • Sicrhau bod mesurau rheoli traffig yn cyd-fynd â chymeriad yr ardal
end content