Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Cynllunio, Rheoli Adeiladu, a Chadwraeth Cadwraeth Arweiniad Ardal Gadwraeth Llandudno Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Ardal Gadwraeth Llandudno Cwestiynau a Ofynnir yn Aml


Summary (optional)
Ardal Gadwraeth Llandudno oedd un o ddynodiadau cyntaf Cymru ac mae hefyd yn un o'r trefi glan môr Fictoraidd harddaf sydd wedi goroesi ym Mhrydain. Rhaid i'r Cyngor ymchwilio i bob cwyn am achosion hanesyddol neu ddiweddar o dorri rheolau a rhaid dangos agwedd gyson at achosion lle mae'r amgylchiadau'n debyg. Rhaid i'r Cyngor sefydlu ac ystyried y ffeithiau unigol sy'n berthnasol i bob achos os yw am osgoi cyhuddiadau o fod yn afresymol ac yn annheg. Mae gan berchnogion hawl i apelio pan gaiff ceisiadau eu gwrthod ac yn erbyn hysbysiadau gorfodi. Mewn nifer o achosion lle cafodd addasiadau eu cwblhau ymhell cyn y newid perchennog diwethaf, rhaid ystyried yr agwedd hon.
start content
Q: Pam gafodd ei dynodi?
A: Yn achos Llandudno, cafodd ei gwneud yn Ardal Gadwraeth i gynnal ei chymeriad Fictoraidd dilys a'i hansawdd uchel (Mae oddeutu 360 adeilad rhestredig yn yr ardal).
Q: Beth sy'n arbenning iawn am gymeriad Ardal Gadwraeth Llandudno?
A: Mae'r dref yn esiampl fendigedig o gynllunio tref yng nghanol y cyfnod Fictoraidd. Caiff ei nodweddu gan derasau cain o adeiladau gyda dylanwadau clasurol. Mae'r eiddo hyn yn ddeniadol o ganlyniad i'w ffenestriad trefnus a chymesur a'r manylion addurnol o ansawdd uchel. Mae unffurfrwydd y rhesi hyn yn rhan hanfodol o'u hapêl. Gall disodli ffenestri a drysau hanesyddol mewn modd modern ac ansensitif ddinistrio eu cyfansoddiad pensaernïol arbennig.
Q: A yw'n bosib newid/datblygiad newydd ddigwyd unwaith fod Ardal Gadwraeth wedi'i dynodi?
A: Er bod rheolau cynllunio yn fwy caeth mewn Ardaloedd Cadwraeth nid yw hyn yn golygu ein bod yn gwahardd unrhyw newidiadau. Gellir cytuno ar nifer o addasiadau os gallant arddangos na fydd cymeriad yr ardal yn newid neu y bydd yn gwella yn sgil y gwaith.
Q: Ar gyfer pa fath o addasiadau i eiddo mewn Ardaloedd Cadwraeth mae angen caniatâd?
A: Mae bob amser yn well gwirio gyda'r Adran Gynllunio cyn dechrau gwneud unrhyw waith er mwyn gweld a oes angen caniatâd a bod y gwaith bwriedig yn mynd i fod yn dderbyniol. Mae angen caniatâd cynllunio er mwyn addasu eiddo defnydd masnachol fel fflatiau, swyddfeydd, lleoedd storio, siopau, tai gwestai a gwestai bron yn ddieithriad. Diogelir adeiladau rhestredig yn ôl y gyfraith er mwyn cynnal eu nodweddion a'u diddordeb hanesyddol a phensaernïol dilys. Byddai angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer unrhyw waith a fyddai'n addasu eu cymeriad arbennig.
Q: A oes unrhyw gyfyngiadau eraill mewn Ardaloedd Cadwraeth?
A: Oes, mae rheolau arbennig yn ymwneud â dymchwel adeiladau a dyluniad hysbysebion. Mae hefyd rheolau yn ymwneud â gwaith ar goed ac mae angen cytundeb ymlaen llaw i dorri unrhyw goeden sy'n tyfu mewn ardal ddynodedig i lawr. Mae coed yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at gymeriad nifer o ardaloedd a dyna pam mae gwaith ar goed yn atebol i reolau'r Cyngor.
Q: A yw'n bosibl gwella effeithlonrwydd ynni eiddo i helpu yn y frwydr yn erbyn cynhesu byd-eang?
A: Gosod mesur insiwleiddio yn y to sy'n debyg o wneud yr arbediad mwyaf o ran ynni drwy atal gwres rhag cael ei golli. Gellir cwblhau hyn yn gymharol rhad ac mae cynlluniau i gynorthwyo i ddarparu mesurau insiwleiddio llofft. Yn aml gellir cyflwyno'r mesur hwn mewn adeiladau hanesyddol heb gael effaith andwyol ar eu cymeriad. Gall mesur insiwleiddio wal niweidio nodweddion a chymeriad hanesyddol adeiladau ac mae angen gofyn am gyngor cyn ystyried yr opsiwn hwn. Yn yr un modd, gall gosod ffenestri gwydr dwbl niweidio dilysrwydd diamddiffyn ardal hanesyddol. Fodd bynnag, mae'n bosibl na fydd angen caniatâd cyn adnewyddu ffenestri hanesyddol os wnewch chi adfer eu rhannau gweithredol a gosod systemau atal drafft da a gallant wella eu perfformiad yn sylweddol. Mae digon o gyngor ar gael ar y mater hwn a gallwn gynorthwyo drwy roi arweiniad neu eich cyfeirio at ymgynghorwyr arbenigol penodol.
Q: A ellir gosod mesurau atal swn er mwyn gostwng lefelau swn i fflatiau?
A: Gall gosod gwydr eilaidd ar ffenestri hanesyddol nid yn unig fod yn fesur gwahanu swn hynod effeithiol, ond gall hefyd leihau colledion gwres yn sylweddol heb beryglu nodweddion hanesyddol. Mae'n bosibl na fydd angen caniatâd i wneud gwelliannau a gwaith trwsio ar ffenestri hanesyddol.
Q: A oes gan y Cyngor gynlluniau i orfodi perchennog bob eiddo sydd â ffenestri/nodweddion eraill PVCu i'w tynnu allan a gosod ffenestri traddodiadol yn eu lle?
A: Mae'r Cyngor yn sylweddoli bod angen cymryd camau pendant dros nifer o flynyddoedd er mwyn cyflawni'r dasg o gynnal a gwella dilysrwydd ac arbenigrwydd Ardal Gadwraeth fel Llandudno. Mae ein hardaloedd cadwraeth wedi profi nifer sylweddol o addasiadau heb eu hawdurdodi dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n anorfod y bydd angen cyflwyno rhai hysbysiadau gorfodi er mwyn adfer ymddangosiad hanesyddol adeiladau penodol. Gallai'r rhain ymwneud ag achosion diweddar o dorri rheolau, yn enwedig rhai sy'n ymwneud ag adeiladau rhestredig. Fodd bynnag, mae nodweddion PVCu wedi'u gosod ar sawl eiddo ers nifer o flynyddoedd. Mae'n fwy tebygol y boddwn yn gofyn i'r rhain adfer yr edrychiad traddodiadol yn wirfoddol, gan felly osgoi camau gorfodi ffurfiol.
end content