start content

Mae gwasanaeth awtomataidd 24 awr yn ogystal â’r gwasanaeth yn ystod oriau swyddfa.

Gallwch bellach dalu'r cyfrifon canlynol drwy ddefnyddio eich Cerdyn Debyd neu Gredyd 24 awr y diwrnod, saith diwrnod yr wythnos:

  • Treth y Cyngor
  • Trethi Busnes
  • Mân Anfonebau
  • Rhybudd Talu Cosb (RhTc)
  • Gordaliad budd-dal tai

Dyma'r cardiau a dderbynnir:

  • MAESTRO
  • VISA DELTA
  • ELECTRON
  • MASTERCARD
  • VISA
  • JCB
  • MCDC

Y cwbl y mae angen i chi ei wneud yw ffonio ein System Dalu Awtomataidd ar 0300 5000 955 gan wneud yn siŵr bod y canlynol gennych chi wrth law:

  • Rhif eich cyfrif/eich cyfeirnod
  • Eich Cerdyn Debyd neu Gredyd
  • Papur a phensel i nodi rhif y trosglwyddiad.

Does dim ffi am ddefnyddio eich cerdyn credyd neu debyd.

end content