Os ydych chi’n orbryderus, yn poeni, yn isel eich ysbryd a bod eich teimladau’n effeithio’n sylweddol ar eich bywyd, gallwch gael cymorth a chefnogaeth.
Bydd y sefydliadau a’r gwasanaethau isod yn darparu mwy o wybodaeth a chyngor i chi. Os ydych chi angen cymorth ar frys, ffoniwch 999, neu ewch i’ch adran damweiniau ac achosion brys agosaf, os ydych chi’n teimlo’n saff i wneud hynny.
Tîm Lles Meddyliol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Mae’r tîm yn gweithio gyda phobl sy’n cael trafferth â’u hiechyd meddwl ac emosiynol, fel gorbryder ac iselder, sydd ddim angen triniaeth feddygol gan nyrs neu feddyg.
Mae’r tîm yn annog ffordd gadarnhaol o drin eich lles meddyliol ac yn rhoi cyfle i chi weithio gyda ni i fynd i’r afael â’r problemau sydd o bosib wedi cyfrannu at eich amgylchiadau presennol. Mae’r tîm yn eich ystyried chi’n arbenigwr ar eich sefyllfa eich hun a bydd yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i atebion a chanlyniadau i’r problemau rydych chi’n eu profi.
Cysylltu â’r tîm
Dydd Llun / Dydd Iau 9am - 4.45pm
Dydd Gwener 9am - 4.15pm
0300 456 1111
Ar unrhyw adeg arall, cysylltwch â’r Tîm Tu Allan i Oriau
Gwasanaethau Eraill
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Conwy
- Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Conwy: 03000 850049
Ysbytai Seiciatrig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Uned Seiciatrig Hergest: 01248 384121
- Uned Seiciatrig Ablett: 01745 585484
- Uned Bryn Hesketh: 0300 085 0040
- Tŷ Llewelyn (Fforensig): 01248 682110
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Bodnant: 0300 850038
- Llys Dyfrig: 0300 085 0002
Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc): 0300 085 0013
Gallwch gysylltu â’ch meddyg teulu am gyngor a chymorth gyda’ch iechyd meddwl