Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Deddf Galluedd Meddyliol


Summary (optional)
Mae'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn darparu fframwaith statudol i asesu a oes gan unigolyn y gallu i wneud penderfyniadau ac mae'n diffinio sut y gall eraill wneud penderfyniadau ar ran rhywun sydd â diffyg gallu. Gorfodir unrhyw un sy'n gweithio gyda phobl sydd â gallu is i ddilyn y rheolau a threfnau a nodir yn y Ddeddf. Mae'n rhaid iddynt roi tystiolaeth eu bod yn gwneud hyn.
start content

Mae pum prif egwyddor y mae angen eu dilyn wrth benderfynu a oes gan unigolyn ddigon o allu i wneud penderfyniad penodol.

1. Rhaid tybio bod unigolyn â gallu oni bai y canfyddir bod diffyg gallu ganddynt.

2. Ni ddylid trin unigolyn fel un nad yw'n gallu gwneud penderfyniad oni bai y cymerwyd pob cam ymarferol i'w helpu heb lwyddiant

3. Ni ddylid trin unigolyn fel un nad yw'n gallu gwneud penderfyniad ddim ond oherwydd iddynt wneud penderfyniad annoeth yn unig.

4. Rhaid i gam gweithredu a gyflawnir, neu benderfyniad a wneir, dan y Ddeddf hon ar gyfer neu ar ran unigolyn sydd â diffyg gallu fod er lles gorau yr unigolyn

5. Cyn cyflawni'r cam gweithredu, neu wneud y penderfyniad, rhaid ystyried a ellir cyflawni'r pwrpas y mae angen hyn ar ei gyfer, yr un mor effeithiol ac mewn ffordd sy'n cyfyngu llai ar hawliau a rhyddid gweithredu'r unigolyn.

Mae modd i allu newid dros amser ac yn ôl pa benderfyniadau mae angen eu gwneud. Mae hefyd yn benodol i amser a phenderfyniadau ac nid yw 'penderfyniad annoeth' a wneir gan yr unigolyn yn ei hun yn dynodi diffyg gallu.

Mae angen ystyried y ffactorau canlynol wrth bennu gallu ar gyfer penderfyniad penodol:

  • A oes gan yr unigolyn ddealltwriaeth gyffredinol o ba benderfyniad mae angen iddynt ei wneud a pham bod angen iddynt ei wneud?
  • A yw'n deall canlyniadau gwneud, neu beidio â gwneud, y penderfyniad, neu o benderfynu'r naill ffordd neu'r llall?
  • A yw'n gallu deall yr wybodaeth sy'n berthnasol i'r penderfyniad hwnnw?
  • A yw'n gallu pwyso a mesur pwysigrwydd cymharol y wybodaeth?
  • A yw'n gallu defnyddio a chadw'r wybodaeth fel rhan o'r broses o wneud penderfyniadau?
  • A yw'n gallu cyfathrebu'r penderfyniad mewn unrhyw fodd, gan gynnwys agor a chau llygad neu wasgu llaw?

Dylid cyfeirio at y Cod Ymarfer wrth ddelio ag unigolyn sydd â phroblemau galluedd meddyliol p'un ai rydych yn ofalwr neu'n weithiwr proffesiynol sy'n cyfrannu at ofal yr unigolyn. 

Gwneud Penderfyniadau Arweiniad i bobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Gwneud Penderfyniadau - arweiniad i deuluoedd, ffrindiau a gofalwyr di-dâl eraill

Gwneud Penderfyniadau arweiniad i weithwyr cynghori

Deddf Gallu Meddyliol - Cod Ymarfer


Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content