Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Deddf Iechyd Meddwl


Summary (optional)
Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn rhoi darpariaeth gyfreithiol arbennig ar gyfer y bobl hynny ag anhwylder meddwl sy’n peryglu eu hunain neu eraill, ac sy’n gwrthod derbyn triniaeth y maent ei hangen. Mae hyn oherwydd bod ganddynt ychydig neu ddim dealltwriaeth o’u cyflwr seiciatrig. Mae’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn cynnwys nifer o adrannau gwahanol.
start content

 

Derbyniad Gwirfoddol i'r Ysbyty
Gwneir pob ymdrech i geisio sicrhau bod pobl sydd angen triniaeth mewn ysbyty yn cael eu derbyn i'r ysbyty yn y modd lleiaf rhwystredig. Pe na bai derbyniad gwirfoddol yn bosibl, yna efallai byddai angen defnyddio adran o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ar gyfer rhai unigolion i'w diogelu nhw, ac weithiau er mwyn diogelwch eraill. Mae rhan fwyaf o dderbyniadau i'r ysbyty yn wirfoddol gyda chytundeb llawn yr unigolyn a'u teulu.
Adrannau Deddf Iechyd Meddwl
Adrannau Deddf Iechyd Meddwl Adran 2 - Mae Adran 2 yn caniatáu derbyniad gorfodol am asesiad a gall bara hyd at 28 diwrnod. Adran 3 - Mae Adran 3 yn caniatáu derbyniad gorfodol am driniaeth. Gall fod am hyd at 6 mis, ac fe ellir ei adnewyddu am dymor hirach os oes angen. Adran 4 - Mae Adran 4 yn caniatáu derbyniad mewn argyfwng ac mae'n para hyd at 72 awr. Gellir ei drawsnewid i adran 2 os yw'r amgylchiadau yn mynnu hyn. Adrannau Eraill - Mae'r ddeddfwriaeth Iechyd Meddwl yn gymhleth ac mae nifer o adrannau eraill o fewn y Ddeddf a allai effeithio'n uniongyrchol ar yr unigolyn tra'u bod yn yr ysbyty neu yn y gymuned. Gweler y ddolen gyswllt isod i'r Ddeddf Iechyd Meddwl:- Adran 136 - Mae adran 136 yn caniatáu swyddog o'r heddlu i fynd ag unigolyn o fan cyhoeddus i le diogel am asesiad os ydynt yn ymddangos i fod yn dioddef o anhwylder meddyliol. Fel arfer bydd lle diogel yn ysbyty neu mewn rhai amgylchiadau, gorsaf yr heddlu, neu leoliad arall. Bydd gorchymyn yn para am hyd at 72 awr ac yn caniatáu asesiad gan ddoctor neu weithiwr cymdeithasol. Gorchymyn Triniaeth yn y Gymuned (CTO) Mae darpariaeth yn y Ddeddf Iechyd Meddwl i gleifion penodol gael eu trin yn y gymuned yn hytrach na chael eu cadw yn yr ysbyty. Pe rhoddir rhywun ar CTO yna bydd amodau penodol yn berthnasol ac fe allai methu cydymffurfio olygu bod yr unigolyn hwnnw yn gorfod mynd i'r ysbyty.
Gorchymyn Gwarcheidwaeth
Dan adran 7 Deddf Iechyd Meddwl 1983 gellir penodi gwarcheidwad i helpu pobl sydd ag anhwylder meddwl, os yw dau feddyg a Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy yn dweud fod angen hynny. Unigolyn o'ch Adran Gwasanaethau Cymdeithasol neu un sydd wedi'i gymeradwyo ganddynt yw'r gwarcheidwad. I rai unigolion, y mae eu bywyd wedi mynd ychydig yn anhrefnus, gall y strwythur a gynigir gan orchymyn eu hannog i ddychwelyd at ffordd o fyw mwy sefydlog. Gall y gorchymyn nodi efallai bod yn rhaid i chi: -Fyw mewn lle penodol -Mynd i gael triniaeth feddygol, addysg alwedigaethol neu hyfforddiant mewn llefydd penodol ac ar amseroedd penodol -Caniatáu i feddyg; gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol; neu unigolyn arall a enwir i'ch gweld. Gall y Gorchymyn Gwarcheidwadaeth barhau hyd at chwe mis yn y lle cyntaf a gellir ei adnewyddu. Os yw unigolyn yn dymuno peidio â bod dan Warcheidwadaeth, dylent drafod hynny'n gyntaf gyda'u Gwarcheidwad, Clinigwr Cyfrifol neu Weithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy. Hefyd gall yr unigolyn ofyn i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru ryddhau'r Warcheidwadaeth.
Perthynas Agosaf
O dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, mae'r gyfraith yn benodol iawn ynglyn â phwy yw eich perthynas agosaf a bydd hyn yn cael ei benderfynu pe baech yn cael eich cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae gan y perthynas agosaf hawliau pwysig wrth helpu i oruchwylio eich lles tra'ch bod yn yr ysbyty wedi eich cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Os ydych yn y gymuned a bod eich perthynas agosaf yn poeni am eich iechyd meddwl, gallant weithredu i sicrhau bod asesiad iawn yn cael ei wneud o'ch cyflwr a phenderfyniad ynglŷn ag oes angen i chi fynd i'r ysbyty a'i pheidio.
Adran 117 a Gofal Dilynol
Os ydych wedi bod yn destun Gorchymyn Adran 3 neu orchymyn arall o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, bydd gennych hawl i Ofal Dilynol Adran 117, sy'n rhoi dyletswydd ar yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd i gymryd rhan ar y cyd a chytuno ar eich gofal dilynol gyda chi. Beth mae hyn yn ei olygu i mi? Byddwch yn cael adolygiadau Adran 117 yn rheolaidd i edrych ar y cynnydd rydych wedi'i wneud ac i benderfynu a oes angen help neu wasanaethau ychwanegol. Bydd unrhyw wasanaethau a ddarperir yn rhad ac am ddim.

 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content