start content

Rydym wedi bod yn gweithio gyda theuluoedd lleol i ddatblygu ein ‘Safonau Cefnogi Teuluoedd’ – mae’r rhain yn dweud beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni fel tîm. Mae’n bwysig i ni eich bod chi’n cael profiad cadarnhaol wrth weithio efo ni.

Byddwn yn mynd drwy’r safonau gyda chi pan ddechreuwn weithio efo chi a byddwn yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.

Eich siwrnai gyda ni - beth ellir ei ddisgwyl (Ffeil PDF)

Rydym hefyd yn gofyn i chi barchu ein staff â’ch gilydd.

Gwybodaeth amdanoch chi:

  • Byddwn yn egluro beth yr ydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi.
  • Rydym yn dilyn y Ddeddf Diogelu Data.
  • Byddwn yn gofyn am eich caniatâd chi cyn rhannu unrhyw wybodaeth amdanoch chi
  • Byddwn yn rhannu gwybodaeth heb eich caniatâd chi dim ond os ydym yn poeni am eich diogelwch chi neud diogelwch rhywun arall


Am ragor o wybodaeth dilynwch y ddolen hon:

https://www.conwy.gov.uk/cy/Council/Access-to-Information/Privacy-Notices/How-Conwy-County-Borough-Council-uses-your-Information.aspx

end content