Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Byw yn iach Y Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol

Y Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol


Summary (optional)
Amcan y Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol yw cwtogi ar y peryglon a'r niwed sy'n cael ei achosi gan gyffuriau neu alcohol i unigolion, teuluoedd a'r gymuned leol. Maent yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill i wella iechyd a lles cymdeithasol defnyddwyr gwasanaeth trwy gynnig triniaeth a gofal.
start content

Os yw unigolyn yn gymwys i dderbyn cymorth, bydd gweithiwr/aig cymdeithasol neu gydlynydd gofal o'r tîm yn gweithio gyda’r unigolyn a phobl sy'n ei adnabod er mwyn nodi ei anghenion a chanfod y dull gorau o ddiwallu ei anghenion.  Wedyn, bydd y gweithiwr/aig cymdeithasol neu'r cydlynydd gofal yn ceisio gwneud yn siŵr bod yr unigolyn mewn cysylltiad â'r gwasanaeth gorau ar gyfer diwallu ei anghenion.

Y gwasanaethau sydd ar gael yw:

  • cyngor a gwybodaeth
  • asesu               
  • cynghori
  • atal y cyflwr rhag ailymddangos 
  • lleihau niwed
  • dadwenwyno cymunedol neu uned ddadwenwyno cleifion preswyl
  • clinig titradiad ar gyfer presgripsiynau methadon
  • cynnal meddyginiaethau ar bresgripsiwn
  • cyngor ar iechyd rhywiol
  • lleoliadau ailsefydlu preswyl
  • aciwbigo awriglaidd

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’ch meddyg teulu.

Gwasanaethau eraill:

 

 

end content