Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Tîm Pobl Ddiamddiffyn


Summary (optional)
start content

Mae'r tîm yn amlddisgyblaethol ac yn cynnwys dau weithiwr cymdeithasol, uwch weithiwr cefnogi, therapydd galwedigaethol a chymhorthydd therapi galwedigaethol. Mae'r Cymhorthwyr Personol Gadael Gofal hefyd yn ffurfio rhan o'r tîm; eu rôl yw sicrhau nad yw pobl ifanc yn gadael gofal hyd nes eu bod yn barod a'u bod yn cael cefnogaeth sy’n fwy effeithiol ar ôl iddynt adael. 

Yn ogystal, mae'r tîm yn gweithio'n agos iawn gyda chydweithwyr yn y Tîm Cyffuriau ac Alcohol, a’r timau Iechyd Meddwl gan gynnwys gweithwyr cefnogi. Maent hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda gwasanaethau Tai a’r adran hawliau lles. 

Mae pobl yn y tîm yn ymrwymedig i weithio gyda phobl ddiamddiffyn ac yn darparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol a fydd yn cynorthwyo'r unigolion i gyflawni canlyniadau sy'n bwysig iddyn nhw. Mae'r tîm yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hyrwyddo a gwella a lle bo angen, i ddiogelu lles cymdeithasol a diogelwch unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae eu gwaith yn cynnwys cyflawni cyfrifoldebau statudol a gwneud penderfyniadau sy'n gallu effeithio ar hawliau dynol pobl a hawliau sifil.

Y Broses Atgyfeirio

Gall gweithwyr proffesiynol neu aelodau o'r cyhoedd ffonio a gwneud atgyfeiriad. Os oes arnoch angen cefnogaeth y tîm i’ch hun neu rywun arall, bydd angen i chi gysylltu gysylltu ag Un Pwynt Mynediad.

Cymhwysedd

Unrhyw un o 16 oed sydd gyda materion diamddiffyn. Gall hyn gynnwys;

  • Materion yn ymwneud â chyllid neu ddyledion
  • Risg o droi allan a/neu ddigartrefedd
  • Anawsterau gydag ymdopi ag elfennau o ddydd i ddydd
  • Cefnogaeth i’r bobl hynny sy'n gadael y carchar

Mae'r tîm hefyd yn cefnogi’r unigolion hynny y mae cefnogaeth wedi’i gwrthod iddynt gan wasanaethau eraill oherwydd nad oes ganddynt ddiagnosis ffurfiol ac nid ydynt yn bodloni eu meini prawf. Maent hefyd yn cefnogi'r rheini sydd wedi bod yn cael gwasanaethau statudol traddodiadol, ond bod y gwasanaethau hyn wedi methu am nad ydynt yn cwrdd ag anghenion cymhleth yr unigolyn. Mae'r tîm hefyd yn cefnogi’r unigolion hynny 'sy'n gadael gofal' ac yn cynllunio'r cam pontio i fod yn oedolion. Er bydd yr unigolion hyn yn cael eu dyrannu ag ymgynghorydd personol, mae'r tîm yn cymryd rhan yn y gwaith paratoi gyda’r ymgynghorwyr hyn.

Gallai’r tudalennau canlynol fod o gymorth i chi:

 

end content