Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Amddiffyn plant rhag cael ei gamdrin yn rhywiol


Summary (optional)
Gwybodaeth a chyngor i rieni, gofalwyr a phobl yn y gymuned
start content

Cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel rhag cam-drin rhywiol – dyma rai ffyrdd y gallwn sicrhau bod hyn yn digwydd.

Dysgwch fwy

Activity_TorchBydd y ffilmiau byr ‘Parents Protect’ hyn yn dweud yr hyn yr ydych angen ei wybod am gam-drin plant yn rhywiol a sut i’w rwystro, gan gynnwys adnabod yr arwyddion.


Rhaglen Dysgu Cam-drin Rhywiol - Rhieni yn Amddiffyn



Creu Cynllun Diogelwch Teulu

Activity_FamilyGall gynllun diogelwch teulu i’ch helpu i greu amgylchedd mwy diogel, addysgu pawb yn y teulu a chael trafodaethau pwysig.

Mae gan ‘Lucy Faithfull Foundation’ dempled sy’n gwneud hyn yn hawdd i chi.

Rhieni Amddiffyn - Creu cynllun diogelwch teulu



Siarad Pants

Activity_UndiesNid yw hi fyth yn rhy gynnar i siarad gyda’ch plant am breifatrwydd a’r hyn sy’n iawn a ddim yn iawn. Mae’r Pantosorws yn gwneud hyn yn hawdd.


Siarad PANTS ac Ymuno â Pantosaurus - Y Rheol Dillad isaf




Aros yn ddiogel ar-lein

Activity_iPadsCadw’ch teulu’n ddiogel ar-lein – dydi hi byth yn rhy gynnar i roi pethau yn eu lle i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein.

Ein prif gynghorion ar ddiogelwch ar-lein


Adnabod yr arwyddion o Gam-fanteisio’n Rhywiol

Activity_HotDyma fath o gam-drin plant yn rhywiol. Dyma lle mae unigolyn neu grŵp yn cymryd mantais o anghydbwysedd pŵer, i dwyllo plentyn (unrhyw un o dan 18) i dderbyn ‘rhywbeth’ yn gyfnewid am berfformio gweithredoedd rhywiol, a/neu gael eraill i berfformio gweithredoedd rhywiol arnynt.

Gall ‘rywbeth’ olygu pethau materol megis, rhywle i fyw, bwyd, cyffuriau, alcohol, sigaréts, anrhegion neu arian. Gall hefyd olygu pethau emosiynol megis: statws, amddiffyniad, hoffter, rhywun i siarad â nhw, neu berthynas:


Ydych chi'n poeni bod eich plentyn yn cael ei ecsbloetio'n rhywiol?



Ymddygiad rhywiol plant – gwybod beth sy’n iawn a beth sydd ddim

Activity_TorchBydd y wybodaeth hon sy'n seiliedig ar liwiau goleuadau traffig yn eich helpu i adnabod beth sy'n arferol a beth sy'n peri pryder o ran ymddygiad rhywiol ymysg plant a phobl ifanc:


l Rhieni Amddiffyn - Offer golau traffig i rieni gofalwyr a gweithwyr proffesiynol



Byddwch yn barod i wrando

Activity_ChatNid yw’n hawdd i blant a phobl ifanc i ddweud wrth oedolion am eu pryderon. Gall oedolyn y gallant ymddiried ynddo wneud gwahaniaeth enfawr.

Os yw plenty yn dod atoch chi, gwnewch yn siŵr eich boch chi’n eu cymryd o ddifrif, yn gwrando’n ofalus, tawelu eu meddwl, yn gwneud nodyn o’r hyn maen nhw wedi ei ddweud, ac yn trosglwyddo’r wybodaeth.

Adrodd eich pryderon



Cymorth Pellach

Activity_Couple
Os hoffech drafod unrhyw un o’r pethau hyn a chael cymorth fel teulu, dewch o hyd i’r tîm lleol yma:


Bywyd Teuluol Conwy


Os ydych wedi profi cam-drin rhywiol ac yr hoffech roi gwybod amdano, cysylltwch a’r Canolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol leol

Canolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol - Amethyst - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Os ydych chi wedi profi cam-drin rhywiol fel plentyn, a’ch bod bellach yn oedolyn, mae cymorth a chefnogaeth ar gael gan Stepping Stones Gogledd Cymru

Stepping Stones (steppingstonesnorthwales.co.uk)

end content