Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Bod yn ddiogel rhag Cam-drin Rhywiol


Summary (optional)

Gwybodaeth a chyngor ar gyfer plant a phobl ifanc.

Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i gael eu cadw’n ddiogel rhag camdrin rhywiol.

start content

Activity_Chat

Sôn am y peth

Rydyn ni’n gwybod nad yw’n hawdd siarad am bethau sy’n eich poeni chi, yn enwedig am ryw. Ond os oes unrhyw beth yn digwydd sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus, dywedwch wrth oedolyn y gallwch chi ymddiried ynddo.

Os nad ydych chi’n gwybod â phwy i siarad, neu os ydych chi’n dal i boeni, gallwch siarad neu anfon neges at ChildLine:

Cymorth gan Childline

Activity_iPads

Cadw’n ddiogel arlein

Mae llwyth o bethau ar gael ynglŷn â sut i gadw'n ddiogel ar-lein. Mae gan y wefan hon wybodaeth dda iawn ar gyfer gwahanol grwpiau oedran i gyd mewn un lle:

Thinkuknow - home

Activity_Caution

Gwybod beth sydd ddim yn iawn

Efallai nad ydych yn siŵr beth yw cam-drin rhywiol. Dyma mae'r gyfraith yng Nghymru yn ei ddweud:

Cam-drin rhywiol yw:


Gorfodi neu ddenu plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, p'un a yw'r plentyn yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd ai peidio, gan gynnwys":

cyswllt corfforol, gan gynnwys gweithredoedd treiddiol neu an-dreiddiol;
- gweithgareddau digyswllt, megis cynnwys plant wrth edrych ar, neu wrth gynhyrchu, deunydd pornograffig neu wylio gweithgareddau rhywiol;
- neu annog plant i ymddwyn mewn ffyrdd rhywiol amhriodol. "

Os ydych chi'n credu bod hyn yn digwydd i chi, neu os nad ydych chi'n siŵr beth mae hyn yn ei olygu, siaradwch ag oedolyn rydych chi'n ymddiried ynddo.

Activity_Signpost

Cadwch lygad am ecsbloetio rhywiol

Mae Ecsbloetio Rhywiol ar Blant (CSE) yn digwydd pan fydd person ifanc yn cael ei annog - neu ei orfodi - i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol. Gallai fod yn gyfnewid am anrhegion, arian, alcohol, neu sylw emosiynol.

Darganfyddwch fwy a ble i gael cefnogaeth yma:

Camfanteisio’n rhywiol ar blant

Activity_Love

Gwybod am berthnasoedd iach

Mae perthnasoedd iach yn ymwneud â pharchu ein gilydd. Fe ddylech chi deimlo eich bod chi’n cael eich caru, yn ddiogel, ac yn rhydd i fod yn chi’ch hun.

Mae mwy o wybodaeth a chyngor am bethau fel secstio, cydsynio a cham-drin mewn perthnasoedd yma:

Face up to it

Activity_Couple

Cymorth pellach

Os ydych chi'n poeni amdanoch chi'ch hun neu unrhyw un arall, mae yna bobl yno i'ch helpu chi.

Gwybodaeth a chyngor Childline
Mynegi’ch pryderon

 

end content