Nod Mwy na Geiriau ydi darparu gwell cydnabyddiaeth ymhlith darparwyr gwasanaeth a sicrhau nad mater o ddewis y unig yw’r Gymraeg, ond mater o angen i nifer fawr o bobl.
Mae Adran 6 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn rhoi dyletswydd ar y rhai sy’n darparu gwasanaethau cymdeithasol i ystyried nodweddion, diwylliant a chredoau unigolion, gan gynnwys iaith, wrth ddarparu gwasanaethau.
Sefydlwyd y Cynnig Gweithredol i alluogi gwasanaethau i gael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano.
Dylai’r iaith Gymraeg fod yr un mor weledol â’r Saesneg.
I gefnogi hyn, rydym yn cynnig sesiwn ‘Mwy na Geiriau’ 1 awr rhad ac am ddim. Bydd yn sesiwn ymarferol i chi a’ch tîm, a byddwn yn defnyddio pecyn gwaith i’ch cynorthwyo â hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant i chi, eich staff a’ch preswylwyr.
Bydd y sesiwn yn cynnwys:
- Cyflwyno Mwy na Geiriau a’r Cynnig Gweithredol
- Y pwysigrwydd o ddeall dewisiadau diwylliannol yn eich gwasanaethau
- Pecyn gwaith sy’n cynnwys enghreifftiau ymarferol a gweithgareddau i’w gweithredu i hyrwyddo diwylliant Cymru
Yr unig beth a ofynnwn gennych yw ardal dawel, gyda mynediad at deledu yn ddelfrydol er mwyn gallu rhannu cyflwyniad, ac o leiaf 4 aelod o staff i fynychu’r sesiwn.
Anfonwch e-bost at sc.training@conwy.gov.uk gyda dyddiad ac amser sy’n gyfleus i mi ymweld â’ch lleoliad.