Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hyfforddiant Dehonglydd Dementia


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 2025:
    • Cyrsiau'r bore, 10am tan 1pm (9:45am - cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru)'r
      • 4 Mehefin
      • 17 Medi
      • 6 Tachwedd
    • Cyrsiau'r prynhawn, 1:30pm tan 4:30pm (1:15pm - cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru):
      • 4 Mehefin
      • 17 Medi
      • 6 Tachwedd

Manylion y cwrs

  • Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
  • Gwasanaethau targed: Busnes a Thrawsnewid, Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwasanaethau a Gomisiynir, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty, Safonau Ansawdd, y Tîm Pobl Ddiamddiffyn, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Gofalwyr Maeth
  • Grŵp targed: Rhai sy'n gweithio ym maes dementia

Nodau ac amcanion y cwrs

Mae'r cwrs Dehonglydd Dementia yn un dysgu-trwy-brofiad a dyma’r genhedlaeth nesaf o hyfforddiant sy’n benodol i bobl sydd â dementia. 

Un o’r agweddau mwyaf allweddol ar gefnogi pobl â dementia yw gallu adnabod a deall y newidiadau cyfathrebu a fydd yn anochel ar eu siwrnai bersonol o fyw gyda dementia.

Mae’r cwrs dehonglydd dementia yn dangos yr effaith ar gyfathrebu a’r angen i staff ddechrau deall a chyfieithu iaith dementia.

Mae’r cwrs wedi ei gynllunio i alluogi unigolion i gyfathrebu’n fwy effeithiol gyda rhai sydd â dementia.  Bydd yn eu helpu i ddeall bod arferion ac ymddygiad yn aml yn ffordd o gyfathrebu sydd angen ei gyfieithu i wella ansawdd bywyd pobl sydd â’r clefyd hwn.

Rhan o’r cwrs yw hyfforddiant trwy brofiad gan ddefnyddio offer arbennig a fydd yn lleihau eich gallu yn raddol i gyfathrebu’n effeithiol. Trwy hy, byddwch yn cael profiad o’r rhwystrau cyfathrebu ar amrywiol lefelau, gan eich rhoi yn esgidiau rhywun sydd â dementia.

Am fwy o wybodaeth, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb gael hysbysiad i fynd arno, cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.

Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi cael cadarnhad bod lle i chi oherwydd mae’n bosib' y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content