Manylion y cwrs
- Hyd: 90 munud (recordiad ar-alw)
- Mynediad:Mae hwn yn recordiad ar-lein ar-alw y gellir ei gyrchu unrhyw bryd drwy wefan y Down's Syndrome Association
- Pwy ddylai fynychu:
- Teuluoedd sy'n cefnogi oedolion â syndrom Down
- Staff iechyd a gofal cymdeithasol
- Staff sy'n asesu, cynllunio neu ddarparu gofal a chymorth
Nodau ac amcanion y cwrs
Mae'r weminar yn archwilio pwysigrwydd adnabod arwyddion posibl dementia a defnyddio dull diagnosis gwahaniaethol. Mae'n ystyried a yw newidiadau yng ngweithrediad a llesiant unigolyn yn deillio o ddementia neu o ffactorau eraill y dylid eu hystyried.
Bydd cyfranogwyr yn dysgu am athroniaeth gofal da a strategaethau ymarferol i sicrhau bod unigolion yn cael eu cefnogi'n briodol a bod anghenion gofal sy'n newid yn cael eu hadnabod a'u diwallu.
Erbyn diwedd y weminar bydd cyfranogwyr yn gallu:
- Deall y berthynas rhwng syndrom Down, heneiddio a dementia
- Adnabod arwyddion a symptomau posibl dementia
- Deall pwysigrwydd defnyddio dull diagnosis gwahaniaethol
- Defnyddio strategaethau ymarferol i gefnogi unigolion y mae eu hanghenion yn newid.Hyrwyddo gofal o safon uchel a chanlyniadau cadarnhaol
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb gael gwybod bod lle i chi fynychu, cysylltwch â Thîm Gweinyddol Dysgu a Datblygu’r Gweithlu.