Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia a phobl sy'n agored i niwed


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 2026:
    • 29 Hydref
  • 2027:
    • 16 Chwefror

Manylion y cwrs

  • Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
  • Amser: 9:30am tan 4:45pm

Nodau ac amcanion y cwrs

Bydd y cwrs hwn yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia ac yn darparu trosolwg o gyflyrau eraill, gan gynnwys awtistiaeth, syndrom Down, anableddau dysgu ac iechyd meddwl.

Bydd cyfranogwyr yn archwilio beth mae bod yn agored i niwed yn ei olygu a sut y gall anawsterau gwybyddol effeithio ar allu unigolyn i ddeall gwybodaeth, cyfathrebu a gwneud penderfyniadau. Bydd y cwrs yn rhoi gwybodaeth ymarferol a thechnegau defnyddiol i gefnogi rhyngweithio cadarnhaol o ddydd i ddydd.

Erbyn diwedd y cwrs bydd cyfranogwyr yn gallu:

  • Cynyddu eu hymwybyddiaeth o anawsterau gwybyddol cyffredin, gan gynnwys anableddau dysgu, awtistiaeth, syndrom Down ac iechyd meddwl.
  • Deall sut y gall anawsterau gwybyddol effeithio ar allu unigolyn i wneud penderfyniadau.
  • Defnyddio technegau ymarferol i gefnogi ymgysylltiad cadarnhaol â phobl sydd ag anawsterau gwybyddol.
  • Cyfathrebu'n fwy effeithiol â phobl a all fod ag anawsterau gwybyddol.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb gael gwybod bod lle i chi fynychu, cysylltwch â Thîm Gweinyddol Dysgu a Datblygu’r Gweithlu. Peidiwch â mynd i unrhyw gwrs oni bai eich bod wedi cael cadarnhad bod lle i chi, oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content