Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Deall Dementia a Chefnogi Ymddygiad Heriol


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 2025:
    • 2 Gorffennaf
    • 18 Tachwedd
    • 20 Tachwedd

Manylion y cwrs

  • Amser: 9.30am - 16.00pm (cyrraedd am 9:15am i gael te/coffi a chofrestru)
  • Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
  • Hyfforddwr: Talking Life
  • Gwasanaethau Targed: Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Tîm Pobl Hŷn, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamdiffyn, Gwasanaethau wedi'u Comisiynu
  • Grŵp Targed: Unigolion sy'n cefnogi pobl gyda dementia

Nodau ac amcanion y cwrs

Mae’r cwrs hwn yn rhoi trosolwg o Ddementia, ei effaith ar yr ymennydd, ar bersonoliaeth, ar les ac ar y gallu i weithredu o ddydd i ddydd. Mae hefyd yn archwilio sut i gefnogi ymddygiad heriol.

  • Diffiniad a mathau o Ddementia
  • Sut mae Dementia yn effeithio ar wybyddiaeth, y cof ac ymddygiad
  • Effaith ar les emosiynol a rhyngweithio cymdeithasol
  • Deall ymddygiad heriol: achosion, sbardunau a ffyrdd o gefnogi
  • Trafodaeth am bwysigrwydd empathi a dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o ran gofal Dementia.

Mae hyn yn sicrhau dull cyfannol o ofalu am unigolion sy'n byw gyda Dementia, gan gydnabod bod ymddygiad heriol yn aml yn ffordd o gyfathrebu yn hytrach nag yn ymgais fwriadol i darfu ar eraill.

Dryswch y Machlud – Achosion a Rheolaeth

Amcan: Deall ffenomenon dryswch y machlud, damcaniaethau arfaethedig, symptomau, a strategaethau ymarferol i'w reoli.

  • Eglurhad o ddryswch y machlud a’i sbardunau
  • Damcaniaethau biolegol, seicolegol ac amgylcheddol
  • Strategaethau ymarferol i leihau aflonyddwch meddwl a gofid

Rheoli Ymddygiad Rhywiol Diymatal

Amcan: Ymchwilio i'r hyn sy'n achosi ymddygiad rhywiol diymatal mewn perthynas â Dementia, a dulliau effeithiol o’i reoli'n sensitif.

  • Deall pam fod ymddygiad diymatal yn digwydd
  • Yr effaith ar ofalwyr, teuluoedd a phreswylwyr eraill mewn lleoliadau gofal
  • Strategaethau cyfathrebu ac ymyrraeth effeithiol

Gweithgareddau:

  • Datrys problemau yn seiliedig ar sefyllfa (sut i ymateb yn broffesiynol a gyda thosturi)
  • Trafodaeth am ystyriaethau moesegol a chynnal urddas
  • Technegau tawelu geiriol a dieiriau
  • Myfyrio: Rhannu pryderon ac arferion gorau ar gyfer ymdrin ag ymddygiad heriol mewn grwpiau bychain.

I gael rhagor o wybodaeth, neu os ydych chi wedi archebu lle ar y cwrs ond heb dderbyn hysbysiad i fynychu, cysylltwch â Thîm Gweinyddol Dysgu a Datblygu’r Gweithlu. Peidiwch â mynd i unrhyw gwrs heb fod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi, gan y gallai'r digwyddiad fod yn llawn.

end content