Gall mynd i rai neu'r holl sesiynau isod eich helpu chi fodloni meini prawf Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefelau 1 a 2 - Cefnogi Cynhwysiant Digidol Unigolion a Hyrwyddo Cefnogaeth Cynhwysiant Digidol ar gyfer Unigolion.
Bydd y cyrsiau yma'n rhoi syniadau i chi o ran sut i wneud y byd digidol yn fwy hygyrch, yn defnyddio iaith a fydd yn apelio at unigolion. Bydd rheoli eich disgwyliadau eich hun yn eich helpu i hyrwyddo'r disgwyliadau cywir ar gyfer y rheiny rydych chi'n eu cefnogi.
Bydd y cyrsiau hyn yn gyflwyniad i dechnoleg bob dydd sy'n gallu ategu eich rôl.
Sut i gadw'ch lle ar un o'r sesiynau:
- Mae manylion y sesiynau ar-lein sydd i’w cynnal cyn bo hir i’w gweld isod, ynghyd â dolenni i gofrestru.
- Mae lle i 75 o bobl ymhob sesiwn a bydd Cymunedau Digidol Cymru yn anfon cadarnhad eich bod wedi cofrestru a neges i’ch atgoffa am y sesiynau yn nes at ddyddiad y cwrs.
- Os cewch chi unrhyw drafferth wrth gofrestru, cysylltwch â DCWtraining@wales.coop.
Dydd Iau 7 Mawrth 2024
Fydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn Saesneg yn unig.
9:30am tan 10:30am
Iechyd a Lles Digidol: rhagor o wybodaeth ac archebwch eich lle
11am tan 12pm
Adnoddau Digidol i gefnogi pobl sy'n byw gyda Dementia: rhagor o wybodaeth ac archebwch eich lle
1:30pm tan 2:30pm
Ysbrydoli Gweithgareddau Digidol: rhagor o wybodaeth ac archebwch eich lle
3pm tan 4pm
Dweud Straeon Digidol: rhagor o wybodaeth ac archebwch eich lle