Dyddiadau
- 2024: 22 Hydref
- 2025: 19 Chwefror
Manylion y cwrs
- Amser: 9:30am tan 12:30pm (9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru)
- Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
- Hyfforddwr: Marilyn Selwood, Mankind
- Gwasanaethau targed: Busnes a Thrawsnewid, Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwasanaethau a Gomisiynir, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty, Safonau Ansawdd, Y Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Gofalwyr Maeth, Tîm Dysgu a Datblygu'r Gweithlu Conwy
- Grŵp targed: Mae'r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwella eu dealltwriaeth o'r maes yma
Nodau ac amcanion y cwrs
Mae’r sesiwn hon yn darparu ystadegau a gwybodaeth i ddysgwyr am ddynion sy’n dioddef a’r heriau a’r rhwystrau ychwanegol sydd yn eu hwynebu.
Ar ddiwedd y sesiwn bydd gan ddysgwyr lefel dda o ymwybyddiaeth a’r gallu i adnabod, cofnodi, ymateb ac atgyfeirio.
Cynnwys y cwrs:
- Modiwl 1: Cefndir ac ystadegau
- Modiwl 2: Cam-drin domestig a cham-drin gan bartneriaid yn erbyn dynion - sut beth ydi o
- Modiwl 3: Arwyddion dynion yn cael eu cam-drin yn ddomestig
- Modiwl 4: Rhwystrau a stereoteipio
- Modiwl 5: Sut i ymateb
- Modiwl 6: Cefnogi a chynllunio diogelwch
- Modiwl 7: Crynodeb
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Dysgu a Datblygu’r Gweithlu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.