Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Diogelu Grŵp B


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 2024:  9 Ebrill,  16 Mai,  10 Mehefin,  8 Gorffennaf,  13 Awst,  24 Medi,  17 Hydref,  11 Tachwedd,  3 Rhagfyr
  • 2025:  6 Ionawr,  17 Chwefror,  11 Mawrth

Manylion y cwrs

  • Amser:  9:30am tan 4:30pm (9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru)
  • Lleoliad:  Coed Pella, Bae Colwyn
  • Hyfforddwr:  Tîm Dysgu a Datblygu'r Gweithlu Conwy
  • Gwasanaethau targed:  Busnes a Thrawsnewid, Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwasanaethau a Gomisiynir, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty, Safonau Ansawdd, Y Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Gofalwyr Maeth
  • Grŵp targed:  Ni ddylai mynychwyr fod wedi mynychu sesiwn Diogelu Sylfaenol Cymru Gyfan o fewn y 3 blynedd ddiwethaf

Nodau ac amcanion y cwrs

Byddwch eisoes wedi cwblhau dysgu Grŵp A. 

Ar ddiwedd gweithgaredd dysgu byddwch yn:

  • gwybod am y ddeddfwriaeth a pholisïau perthnasol, codau ymddygiad ac arferion proffesiynol sy’n adlewyrchu eich rôl o ran diogelu
  • gallu disgrifio sut i weithio mewn modd sy’n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod
  • gwybod sut i fod yn chwilfrydig pan fyddwch yn dod ar draws camdriniaeth, niwed neu esgeulustod, neu’n ei amau, neu os bydd rhywun yn dweud wrthych eu bod yn cael eu cam-drin
  • gallu egluro’r ffactorau, sefyllfaoedd a gweithredoedd a all arwain neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
  • gwybod sut, pryd ac i bwy y dylid adrodd am wahanol fathau o gamdriniaeth, niwed ac esgeulustod

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.  Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content