Dyddiadau
- 2026: 12 Ionawr, 11 Mehefin, 25 Tachwedd
 
- 2027: 04 Mawrth
 
Manylion y cwrs
- Amser: 9:30am tan 16:30pm
 
- Lleoliad: Ystafell Hyfforddi, Coed Pella, Bae Colwyn
 
- Hyfforddwr: Lyndsey Reis Uned Ddiogelu Conwy
 
- Gwasanaethau targed: Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Y Tîm Anabledd, Cefnogaeth ac Ymyrraeth i Deuluoedd, Plant sy'n Derbyn Gofal
 
- Grŵp targed: Pob Gweithiwr Cymdeithasol sy'n gweithio mewn Gwasanaethau Plant, Ymarferwyr Gofal Cymdeithasol, Rheolwyr a Gweithwyr Preswyl yn gweithio mewn gwasanaethau plant
 
Nodau ac amcanion y cwrs
Mae’r cwrs wedi’i ddylunio i atgyfnerthu hyder a chysondeb ymarferwyr wrth asesu risg o niwed sylweddol i blant drwy ymagwedd strwythuredig yn seiliedig ar dystiolaeth.
Mae’r hyfforddiant yn ceisio gwella’r broses o wneud penderfyniadau o ran trothwyon ar gyfer niwed sylweddol, ymgorffori fframwaith dadansoddi cyson ar draws y Gwasanaethau Plant, a chefnogi ymarfer myfyriol a goruchwyliaeth gan ddefnyddio model Risg 2.
Bydd cyfranogwyr yn cael eu cyflwyno i dempledi Risg 2 a’u defnydd ymarferol, gan ddatblygu sgiliau i werthuso gallu rhieni, diamddiffynedd plant, a niwed posibl. Bydd y cwrs yn archwilio’r defnydd o’r model mewn asesiadau cyn-geni a sefyllfaoedd diogelu cymhleth.
Gellir mynychu’r sesiynau hyn fel rhan o hyfforddiant gorfodol ar gyfer ymarferwyr penodol neu eu defnyddio fel hyfforddiant atgoffa.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Dysgu a Datblygu’r Gweithlu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.