Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Wcráin Sut gallwch chi helpu

Sut gallwch chi helpu


Summary (optional)
start content

Rhoi


Gall pobl helpu drwy nifer o ffyrdd.

Mae llawer o’r llwybrau teithio ar gau a’r sustemau cludiant dan bwysau mawr, felly gallai anfon nwyddau ychwanegu at yr anawsterau ar lawr gwlad. Ond gyda rhoddion ariannol, bydd y sefydliadau sy’n ymateb i’r argyfwng yn gallu cael gafael ar y nwyddau brys yn lleol. Dylai unrhyw un sy’n gallu helpu ystyried gwneud rhodd ariannol i’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau.

Os gallwch chi gynnig cymorth fel busnes neu sefydliad, mae angen ichi ddweud wrthym am yr help y gallwch ei roi.

Mae angen pethau fel:

  • llety ar raddfa fawr i ffoaduriaid a'u teuluoedd, fel gwestai a pharciau gwyliau
  • cludiant, fel coetsis a bysiau mini (efallai na fydd angen i chi ddarparu gyrwyr), i fynd â phobl i'w cartrefi newydd
  • cyflenwadau fel dillad, pethau ymolchi ac eitemau ar gyfer y mislif
  • gwersi iaith
  • cyflogaeth a hyfforddiant
  • cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd

 

Cartrefi i Wcráin (nawdd)

Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu dau gynllun i helpu pobl i ddod i’r DU os ydynt yn ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin – y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, i bol sydd â chysylltiadau teuluol, a’r cynllun Cartrefi i Wcráin, ar gyfer y rheini sydd heb gysylltiadau teuluol yn y DU.

Sut i gofrestru:

Y ddolen i gofrestru cynnig cymorth yw: Cofrestrwch fusnes neu sefydliad i helpu ffoaduriaid o Wcráin sy’n dod i Gymru

Yn y cyfamser, os oes gennych enw unigolyn penodol rydych yn dymuno ei noddi, ewch i: homesforukraine.campaign.gov.uk

Os nad ydych yn adnabod neb i’w noddi, gallwch gofrestru eich diddordeb mewn cynnig llety, mae mwy yn: https://www.gov.uk/guidance/homes-for-ukraine-scheme-frequently-asked-questions

Dolenni defnyddiol:

  • I gael rhagor o gwestiynau am y cynllun Homes for Ukraine, ewch i wefan Llywodraeth y DU
  • Os oes gennych ragor o gwestiynau am y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, gallwch ymweld â'r dudalen benodol ar wefan Llywodraeth y DU.
  • Hefyd, mae ein gwefan Noddfa  yn rhoi llawer o wybodaeth yn Wcraineg a ieithoedd eraill ar gyfer y bobl sy’n cyrraedd Cymru o Wcráin.

 

Ffyrdd eraill o helpu

Mae’r dolenni isod yn rhoi rhagor o wybodaeth am ffyrdd i helpu:

Gallwch hefyd anfon e-bost at ukrainesupport@conwy.gov.uk

end content