Mae llinell gymorth bwrpasol i bobl sy’n cyrraedd Cymru o’r Wcráin ac i bobl sy’n gweithredu fel noddwyr i roi cyngor ac arweiniad wedi’i sefydlu.
- I alwyr yn y DU, y rhif yw: Rhadffôn 0808 175 1508
- I alwyr y tu allan i’r DU, y rhif yw: +44 20 4542 5671
Mae’r llinell gymorth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gellir dod o hyd i gyngor ac arweiniad yma hefyd: Cartrefi i Wcráin: canllawiau i noddwyr
Cadw mewn Cysylltiad
Cadwch mewn cysylltiad a gadael i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wybod y dyddiad y disgwylir i’ch gwestai(gwesteion) gyrraedd a phan fydd eich gwestai(gwesteion) wedi cyrraedd.
Rydym yma i’ch cefnogi, rydym yn diweddaru ein gwefan yn rheolaidd, ac yn cyhoeddi gwybodaeth a all fod yn ddefnyddiol i chi fel y noddwr a’ch gwesteion.
Taliad Diolch
Gall noddwyr gael ‘Taliad Diolch’ dewisol o £350 y mis. Gwneir y taliad yn fisol fel ôl-daliad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Gellir ond gwneud y taliad ar ôl cynnal gwiriadau llety a’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ar ôl i chi gael eich cymeradwyo fel noddwr ac mae eich gwesteion wedi cyrraedd, bydd mwy o wybodaeth a ffurflen gais ar gyfer y taliad yn y llythyr a gawsoch gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.