Diwrnodau casglu
Ailgylchu, gwastraff, casglu nwyddau trydanol a thecstilau, a glytiau a gynhyrchion anymataliaeth
- Os mai dydd Llun yw eich diwrnod casglu arferol, eich diwrnod casglu dros y Nadolig fydd dydd Sadwrn 23 Rhagfyr, ac eich diwrnod casglu dros y Flwyddyn Newydd fydd dydd Mawrth 2 Ionawr.
- Os mai dydd Mawrth yw eich diwrnod casglu arferol, eich diwrnod casglu dros y Nadolig fydd dydd Mercher 27 Rhagfyr, ac eich diwrnod casglu dros y Flwyddyn Newydd fydd dydd Mercher 3 Ionawr.
- Os mai dydd Mercher yw eich diwrnod casglu arferol, eich diwrnod casglu dros y Nadolig fydd dydd Iau 28 Rhagfyr, ac eich diwrnod casglu dros y Flwyddyn Newydd fydd dydd Iau 4 Ionawr.
- Os mai dydd Iau yw eich diwrnod casglu arferol, eich diwrnod casglu dros y Nadolig fydd dydd Gwener 29 Rhagfyr, ac eich diwrnod casglu dros y Flwyddyn Newydd fydd dydd Gwener 5 Ionawr.
- Os mai dydd Gwener yw eich diwrnod casglu arferol, eich diwrnod casglu dros y Nadolig fydd dydd Sadwrn 30 Rhagfyr, ac eich diwrnod casglu dros y Flwyddyn Newydd fydd dydd Sadwrn 6 Ionawr.
Fy nyddiad casglu.
Gwastraff gardd
Os oes gennych danysgrifiad casglu gwastraff gardd gyda Bryson Recycling
- Os mai dydd Llun yw eich diwrnod casglu arferol, eich diwrnod casglu dros y Nadolig fydd dydd Sadwrn 23 Rhagfyr, ac eich diwrnod casglu dros y Flwyddyn Newydd fydd dydd Mawrth 2 Ionawr.
- Os mai dydd Mawrth yw eich diwrnod casglu arferol, eich diwrnod casglu dros y Nadolig fydd dydd Mercher 27 Rhagfyr, ac eich diwrnod casglu dros y Flwyddyn Newydd fydd dydd Mercher 3 Ionawr.
- Os mai dydd Mercher yw eich diwrnod casglu arferol, eich diwrnod casglu dros y Nadolig fydd dydd Iau 28 Rhagfyr, ac eich diwrnod casglu dros y Flwyddyn Newydd fydd dydd Iau 4 Ionawr.
- Os mai dydd Iau yw eich diwrnod casglu arferol, eich diwrnod casglu dros y Nadolig fydd dydd Gwener 29 Rhagfyr, ac eich diwrnod casglu dros y Flwyddyn Newydd fydd dydd Gwener 5 Ionawr.
- Os mai dydd Gwener yw eich diwrnod casglu arferol, eich diwrnod casglu dros y Nadolig fydd dydd Sadwrn 30 Rhagfyr, ac eich diwrnod casglu dros y Flwyddyn Newydd fydd dydd Sadwrn 6 Ionawr.
Coed Nadolig go iawn
Os oes gennych danysgrifiad casglu gwastraff gardd gyda Bryson Recycling, byddant yn casglu'ch coeden go iawn gyda'r naill neu'r llall o'ch casgliadau ym mis Ionawr. Gofynnwn i chi dorri’r coed yn ddarnau llai nag un metr a’u rhoi yn eich bin brown er mwyn i Bryson eu casglu. Os nad oes gennych danysgrifiad, gallwch fynd â'ch coeden i un o'n Canolfannau Ailgylchu Aelwydydd. Gallwch hefyd rwygo a chompostio'ch coeden gartref.
Amserau agor Canolfannau Ailgylchu dros y Nadolig
Bydd y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ym Mochdre ac Abergele’n cau am dri diwrnod dros y Nadolig, ac yn agored yn hwyrach rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Mae’n rhaid i chi drefnu apwyntiad i ymweld â’r ganolfan ailgylchu.
Ailgylchu dros y Nadolig
Ailgylchwch i’r eithaf y Nadolig hwn, i wneud lle yn y bin!
Papur lapio – os nad oes unrhyw gliter neu ffoil ynddo, gallwch fel arfer ei roi yn y bocs uchaf. Tynnwch unrhyw dâp gludiog, rubanau a dolennau yn gyntaf. Os nad ydych chi’n siŵr, gwasgwch y papur lapio’n bêl yn eich dwylo – os yw’n cadw’i siâp, gallwch ei roi yn y bocs ailgylchu.
Cardiau Nadolig – Tynnwch unrhyw rubanau neu gliter a rhoi’r cardiau i mewn gyda’ch papur. Os ydych chi wedi cael cardiau cerddorol â batris ynddynt, gall y rheiny fynd yn eich bag batris.
Gallwch ailgylchu goleuadau coeden Nadolig a theganau electronig yn eich bag pinc.
Torchau – gall pethau naturiol fel eiddew, moch coed, uchelwydd a chelyn fynd i’r compost, neu yn eich biniau gwastraff o’r ardd, cyn belled nad oes unrhyw gliter drostynt.
Pecynnu – tynnwch unrhyw blastig neu bolystyren o’r bocsys cyn ichi eu hailgylchu. Rhowch eich bocsys yn fflat cyn eu rhoi allan i’w casglu.Os oes gennych lawer iawn o focsys, rhowch nhw allan i’w casglu dros nifer o wythnosau. Methu aros? Defnyddiwch y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref am ddim.