Mae’n rhaid i chi drefnu apwyntiad i ymweld â’r ganolfan ailgylchu.
Mae hyn er mwyn eich cadw chi a staff y ganolfan yn ddiogel ac i gadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol. Mae slotiau ar gael am 4 wythnos. Mae pob cartref yn cael hyd at 3 ymweliad i’r safleoedd bob mis calendr, i wneud yn siŵr bod pawb sydd eisiau defnyddio’r canolfannau yn gallu cael apwyntiad.
Mae’r Canolfannau at ddefnydd preswylwyr sir Conwy yn unig – efallai byddwn yn gofyn i chi am brawf o’ch cyfeiriad pan rydych yn cyrraedd y safle.
Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin cyn i chi drefnu apwyntiad os gwelwch yn dda, er mwyn i chi wybod beth ddylech ddod gyda chi a beth i’w ddisgwyl cyn mynd.
Os nad ydych yn parchu’r rheolau cadw pellter cymdeithasol neu’n ymddwyn yn dreisgar gyda staff ar y safle, bydd gofyn i chi adael, ac mae’n bosibl y bydd yn rhaid ffonio’r Heddlu.
Sut ydw i’n archebu slot yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref?
Y ffordd hawsaf i archebu apwyntiad yw drwy ddefnyddio’r ffurflen archebu ar ein gwefan - defnyddiwch y botymau ar waelod y dudalen hon i ddewis pa ganolfan yr ydych yn dymuno ymweld â hi. Os nad oes gennych chi fynediad i’r we, gallwch ffonio ein Tîm Cynghori ar 01492 575337.
Pam bod rhaid i mi wneud apwyntiad?
Mae’n bwysig ein bod yn diogelu staff ac ymwelwyr yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Rydym yn defnyddio’r system apwyntiadau i helpu pobl i gadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol, sy’n golygu mai dim ond hyn a hyn o apwyntiadau sydd ar gael bob diwrnod. Mae apwyntiadau ar gael bob dydd am y pedair wythnos nesaf.
Faint o apwyntiadau alla i archebu?
Mae pob cartref yn cael hyd at 3 ymweliad i’r safleoedd bob mis calendr, i wneud yn siŵr bod pawb sydd eisiau defnyddio’r canolfannau yn gallu cael apwyntiad.
A oes rhaid imi ddefnyddio’r un cerbyd ag y nodais wrth archebu’r apwyntiad?
Oes - byddwn yn gwirio’r rhif cofrestru yn erbyn yr archeb.
Beth sy’n digwydd os na fyddaf yn gallu mynychu fy apwyntiad?
Os ydych chi’n gwybod ymlaen llaw na fyddwch ar gael i fynychu’r apwyntiad, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda er mwyn i ni allu cynnig yr apwyntiad i rywun arall.
A alla i ddod ag eitemau ychwanegol nad oeddwn wedi’u cynnwys ar y rhestr pan oeddwn yn archebu?
Gallwch - rydym yn gofyn am ychydig o wybodaeth am y prif eitemau yr ydych yn dod gyda chi i’n helpu i reoli’r safle.
Sut ydw i’n cyrraedd safle Mochdre?
Yr unig fynediad i safle Mochdre fydd drwy Ffordd Dinerth, a bydd system unffordd ar waith.
Beth fydd yn digwydd ar ôl imi gyrraedd y Ganolfan Ailgylchu?
- Ceisiwch gyrraedd yn brydlon, er mwyn osgoi ciwiau.
- Arhoswch yn eich car gyda’ch ffenestri i fyny nes y bydd staff yn gofyn i chi yrru i’r ganolfan.
- Bydd gennych 10 munud ar y safle. Sicrhewch eich bod yn gorffen dadlwytho eich gwastraff o fewn yr amser hwn.
- Dim ond un person fydd yn cael mynd allan o’r car, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu dadlwytho a chario’r eitemau eich hunan.
- Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn trefnu eich gwastraff cyn dod, er mwyn sicrhau eich bod yn gallu dadlwytho o fewn eich slot 10 munud.
- Sicrhewch eich bod yn cadw o leiaf 2 fetr (6 troedfedd) i ffwrdd o bobl eraill ar y safle.
Os nad ydych yn parchu’r rheolau cadw pellter cymdeithasol neu’n ymddwyn yn dreisgar gyda staff ar y safle, bydd gofyn i chi adael, ac mae’n bosibl y bydd yn rhaid ffonio’r Heddlu.
A yw staff y Ganolfan yn gallu fy helpu i ddadlwytho fy ngherbyd?
Nac ydyn. I gadw chi a’r staff ar y safle yn ddiogel, byddwn yn cadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol. Mae hyn yn golygu na fydd y staff yn gallu eich helpu i ddadlwytho. Dim ond un person fydd yn cael mynd allan o’r car, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu dadlwytho a chario’r eitemau eich hunan.
A oes angen i mi drefnu fy ngwastraff cartref a gwahanu’r ailgylchu?
Oes, gwnewch hyn cyn dod os gwelwch yn dda. Dylech wahanu gwydr, poteli a thybiau plastig, cartonau, tuniau, caniau a phapur a chardiau.
Beth ddylwn ei wneud gyda gwastraff os wyf wedi bod yn hunan-ynysu?
Os yw aelodau eich cartref yn hunan-ynysu ar hyn o bryd gan fod rhywun yn profi symptomau, ni ddylech ymweld â’r safle. Os ydych chi wedi cwblhau’r cyfnod hunan-ynysu, sicrhewch eich bod yn rhoi gwastraff y cartref mewn bagiau dwbl ac yn eu gadael am 72 awr cyn i chi ddod â nhw i’r safle.
A oes angen imi dalu am ddod â’m sbwriel i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref?
Os ydych chi’n dod ag eitemau fel pren, rwbel, drysau plastig neu fframiau ffenestri, unedau cegin neu ystafell ymolchi, bydd yn rhaid i chi dalu ffi fechan. Gallwch weld rhestr lawn o’r eitemau a prisiau ar ein gwefan.
Er mwyn atal oedi a lleihau cyswllt wrth y peiriannau talu, rydym yn hepgor y ffioedd arferol ar gyfer gwastraff nad yw’n wastraff cartref. Ni fyddwn yn codi tâl am hyd at 3 bag o rwbel, pridd neu bren..
Sut ydw i’n talu am ddod ag eitemau fel pren, gwastraff DIY neu fframiau ffenestri i’r Ganolfan?
TMae peiriannau talu gyda cherdyn ar gael yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Caiff y peiriannau eu diheintio’n rheolaidd. Ni allwn dderbyn taliadau gyda siec nac arian parod.
Pam na allaf ddod â fan neu threlar echel ddwbl i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref? Dyma fy ngherbyd personol, nid yw’n gerbyd masnach?
Os oes gennych chi drwydded i’ch fan neu threlar echel ddwbl, caniateir i chi drefnu apwyntiad. Gallwch wneud cais am drwydded ar lein ar ein gwefan. Bydd rhaid i chi ddweud wrthym beth yw eich rhif trwydded pan fyddwch yn gwneud eich apwyntiad.
Sut ydych yn diogelu’r staff yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref?
Bydd pob aelod o staff yn cydymffurfio â’r canllawiau cadw pellter cymdeithasol ar y safle, a bydd ganddynt Gyfarpar Diogelu Personol i’w caniatáu i ymgymryd â’u dyletswyddau’n ddiogel. Helpwch ni i’w cadw’n ddiogel drwy gadw pellter o 2 fetr (6 troedfedd) rhyngoch chi a’r staff.
Pam bod yn rhaid i mi roi fy rhif ffôn wrth archebu?
Mae Rheoliadau Coronafeirws Llywodraeth Cymru yn gofyn i ni gadw cofnod o ymwelwyr a staff y safle, a chasglu gwybodaeth gan bob ymwelydd. Byddwn yn cadw’r wybodaeth hon am 21 diwrnod ac yn ei rhannu gyda Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru os oes angen - i helpu i adnabod pobl a all fod wedi dod i gysylltiad â’r feirws.
Ni fydd modd i chi drefnu apwyntiad heb ddarparu’r wybodaeth hon.
Trefnu apwyntiad
Peidiwch â defnyddio Microsoft Internet Explorer