Digwyddiad cyngor a chefnogaeth i bobl ifanc 15–24 oed

Hwb y Dyfodol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnal digwyddiad cyngor a chefnogaeth i bobl ifanc 15–24 oed yng Ngholeg Llandrillo ar 21 Hydref rhwng 10am a 4pm. Mae’r digwyddiad wedi’i deilwra ar gyfer pobl ifanc wrth iddynt ystyried y dewisiadau sydd ganddynt o ran gyrfa, hyfforddiant, tai, lles a mwy.
Mae pobl ifanc yn wynebu amrywiaeth o heriau a chyfleoedd, a bydd staff o Wasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn Conwy ar gael i roi manylion am y cyngor, y gweithgareddau a’r gefnogaeth maent yn gallu eu cynnig i’w helpu nhw i wynebu’r dyfodol. Bydd cyfle i glywed am y clybiau cymunedol a’r prosiectau targedu maen nhw’n eu cynnal i bobl ifanc ar hyd a lled Sir Conwy, gan gynnwys: cyngor ac arweiniad ar ddigartrefedd i bobl ifanc; cyfleoedd ôl-16 i bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET); a chymorth lles ac iechyd meddwl.
Yn rhan o’r digwyddiad, bydd Coleg Llandrillo, Gyrfa Cymru, hyfforddiant COPA a Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy yno ac ar gael i gynnig gwybodaeth am gyrsiau coleg, cymorth i ddod o hyd i swyddi a phrentisiaethau a manylion am gyfleoedd am hyfforddiant.
Mae’r rhai eraill fydd â stondin yno’n cynnwys Heddlu Gogledd Cymru, Wynne Construction, JIWSI, Barnardos, Cyswllt Conwy a llawer mwy.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Mae’r digwyddiadau yma’n cael eu trefnu i ddarparu ystod o wybodaeth i gyd mewn un lle. Mae wynebu’r dyfodol yn gallu bod yn beth brawychus i lawer o bobl ifanc wrth feddwl am y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw. Fe fyddem ni’n annog pobl i ddod draw, cael paned, a gweld pa gefnogaeth sydd ar gael i’w helpu nhw ar eu siwrnai.”
Gall pobl ifanc alw draw i’r digwyddiad ar unrhyw adeg. Bydd lluniaeth ar gael.
Gwybodaeth am Wasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn Conwy: Gwasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 15/10/2026