Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Wythnos y Lluoedd Arfog 2025

Wythnos y Lluoedd Arfog 2025


Summary (optional)
start content

Wythnos y Lluoedd Arfog 2025

Armed Forces Day logo

Diwrnod y Lluoedd Arfog

Mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn dechrau heddiw a chyrraedd ei hanterth ddydd Sadwrn 28 Mehefin 2025.

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddangos cefnogaeth i’r dynion a’r merched sy’n aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog, o swyddogion sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd i deuluoedd y Lluoedd, cyn-filwyr a chadetiaid.

Mae’n Ddiwrnod y Milwyr Wrth Gefn ddydd Mercher 25 Mehefin 2025. Mae milwyr wrth gefn yn rhoi o’u hamser hamdden i wasanaethu yn y Lluoedd wrth Gefn, gan gydbwyso eu bywyd dinesig gyda gyrfa filwrol er mwyn sicrhau y byddant yn barod i wasanaethu fel rhan o'r lluoedd arfog os bydd eu hangen ar eu gwlad.    Mae’r Lluoedd wrth Gefn yn gyfystyr â thua un rhan o chwech o staff y Lluoedd Arfog ac o ganlyniad maent yn arbennig o bwysig o ran gwarchod diogelwch y genedl gartref a thramor, yn arbennig o safbwynt darparu gallu mewn meysydd arbenigol fel meddygol neu seibr.  Crëwyd Diwrnod y Milwyr wrth Gefn i amlygu a chydnabod y cyfraniad gwerthfawr mae Milwyr wrth Gefn yn ei wneud i'n Lluoedd Arfog.

Mae Conwy yn cefnogi Milwyr Wrth Gefn a Chadetiaid fel rhan o Gyfamod y Lluoedd Arfog a’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr: Conwy yn cadw ei Wobr Lefel Aur - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

 

Dolenni Defnyddiol:

Diwrnod y Lluoedd Arfog

Cyfamod y Lluoedd Arfog

Wedi ei bostio ar 23/06/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content