Cartref Newyddion Eitemau newyddion A fyddech chi'n gallu bod yn Gynghorydd?
start content

A fyddech chi'n gallu bod yn Gynghorydd?

Siambr y Cyngor

Siambr y Cyngor

Cefnogaeth a hyfforddiant ar gael i ddarpar ymgeiswyr

Cyn etholiadau lleol y flwyddyn nesaf, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn codi ymwybyddiaeth a darparu gwybodaeth am fod yn Gynghorydd.

Mae’n bwysig bod Cynghorwyr yn adlewyrchu gwerthoedd ac anghenion y bobl sy’n eu hethol, fel bod modd iddynt gynrychioli’r holl wahanol safbwyntiau sydd yn y gymuned a gwneud penderfyniadau er lles pawb.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth a bod yn Gynghorydd, mae cyngor a gwybodaeth ar gael ar wefan Conwy yma Bod yn Gynghorydd - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Ar gyfer etholiadau Llywodraeth Leol 2027, mae cefnogaeth a hyfforddiant ar gael i ferched sefyll i gael eu hethol ar Etholwch Hi

Gall ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig gael cefnogaeth a hyfforddiant trwy Race Equality First

Mae Anabledd Cymru wedi cyhoeddi Pecyn Cymorth Mynediad at Wleidyddiaeth, sy’n adnodd ymarferol i bobl anabl sydd â diddordeb mewn mynd i’r byd gwleidyddol a’i lywio. 

Mae cymorth ariannol ar gael i ymgeiswyr anabl hefyd trwy’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig a reolir gan Anabledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, cynorthwywyr personol, cludiant hygyrch a thechnoleg gynorthwyol.

Mae bod yn Gynghorydd yn rôl amrywiol a boddhaus, gan gynnig cyfle i wneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl. Mae Cynghorwyr yn gweithio gyda phreswylwyr lleol, grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau eraill, i gynrychioli eu cymunedau a helpu i wneud penderfyniadau am faterion lleol a gwasanaethau sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnwys 55 o Gynghorwyr a gaiff eu hethol gan y cyhoedd. Cynhelir yr etholiadau llywodraeth leol nesaf ar draws Cymru ym mis Mai 2027.

 

Wedi ei bostio ar 28/10/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content