Beth bynnag yw eich ysgogiad, gall bod yn gynghorydd lleol fod yn brofiad gwerthfawr iawn. Mae'n rhoi cyfle i chi helpu eich cymuned leol, gwireddu newidiadau a bod yn rhan o dîm sy'n gyfrifol am ddyfodol a lles Bwrdeistref Sirol Conwy a'r bobl sy'n byw, gweithio, ac yn ymweld â'r ardal.
- Ydych chi’n angerddol ynghylch eich cymuned leol?
- Oes yna rywbeth rydych chi am ei newid?
- Ydych chi’n barod i gymryd penderfyniadau heriol?
Beth am sefyll dros yr hyn sy’n bwysig i chi a dod yn gynghorydd lleol? Mae cynghorwyr yn cael eu hethol gan bobl yn eu cymuned i’w cynrychioli ac i wneud penderfyniadau ar eu rhan. Mae bod yn gynghorydd yn foddhaol, yn heriol ac yn bleserus a gallwch chi newid bywydau pobl er gwell. Mae’n bwysig bod cynghorwyr yn debyg i’r bobl sy’n eu hethol er mwyn iddynt gael cynrychioli pob barn wahanol yn y gymuned a chymryd penderfyniadau sydd o fudd i bawb.
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am rôl bod yn gynghorydd lleol, gallwch wylio nifer o fideos o Gynghorwyr Bwrdeistref Sirol Conwy presennol yn siarad am eu rhesymau dros sefyll, yr ymdrechion a'r cyflawniadau, a'r gefnogaeth a ddarperir.
Beth am wylio fideos a darllen astudiaethau achos gan gynghorwyr amrywiol yn disgrifio eu rolau ac yn egluro pam eu bod wedi sefyll mewn etholiad?
Neu, os oes gennych ddiddordeb, cwblhewch y modiwl e-ddysgu ar gyfer ymgeiswyr i ddysgu mwy.
Mae modd canfod a ydych yn gymwys ar gyfer Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig sydd ar gael i bobl anabl sy’n sefyll mewn etholiad.
Papurau enwebu i fod yn Gynghorydd a mwy o wybodaeth am sefyll ar gyfer etholiad ar gael yma.
Fideos
Bod yn Gynghorydd
Cefnogaeth i Gynghorwyr
Cyflawniadau a Heriau
Amrywiaeth
Tîm Conwy
Gwaith Ward
Gweithio ar y Cyd