A yw eich plentyn yn dechrau swydd ran-amser?

Trwydded Cyflogi Plant
Os yw eich plentyn yn dymuno gweithio, hyd yn oed am ychydig o oriau’r wythnos, mae un peth pwysig sy’n rhaid digwydd yn gyntaf.
Mae’n rhaid i blant rhwng 13 oed ac oedran gadael ysgol* gael trwydded cyflogi plant.
Mae’n rhaid iddynt gael trwydded cyflogi plant gan yr awdurdod lleol - mae hyn yn ofynnol dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933.
Mae trwyddedau’n rhad ac am ddim ac yn cael eu cyflwyno gan yr Awdurdod Lleol lle mae’r plentyn yn gweithio.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi:
- Rhaid bod y drwydded ar waith cyn i'ch plentyn ddechrau gweithio.
- Y cyflogwr fydd yn gwneud cais fel arfer, ond bydd yr awdurdod yn cysylltu â chi i geisio eich caniatâd.
Pethau pwysig i’w gwybod:
- Ni all eich plentyn weithio yn ystod oriau ysgol
- Mae cyfyngiadau o ran nifer yr oriau y gallant weithio a’r math o waith y gallant ei wneud.
Mae profiad gwaith yn gyfle gwerthfawr i bobl ifanc - lluniwyd y rheolau a’r rheoliadau i ddiogelu eu hiechyd, diogelwch ac addysg.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais am drwydded ar: Trwydded Cyflogi Plant - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Nodiadau:
*Caniateir i blentyn adael yr ysgol ar y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn ystod y flwyddyn ysgol pan fyddant yn cael eu pen-blwydd yn 16 oed (ar ddiwedd blwyddyn 11 fel arfer).
Mae’r rheolau’n berthnasol i waith am dâl a di-dâl.
Hefyd nid yw plant sy’n gweithio heb drwydded ddilys yn cael eu cynnwys yn yswiriant y gweithle.
Wedi ei bostio ar 01/07/2026