Llys Ynadon Llandudno yn rhoi gorchymyn cau am dri mis, i sicrhau diogelwch trigolion yng Nghyffordd Llandudno

Tybaco a sigaréts peryglus, anghyfreithlon a ffug
Yn dilyn cwynion gan drigolion pryderus, fe aeth Swyddogion Safonau Masnach Conwy, gyda chefnogaeth gan Heddlu Gogledd Cymru, i archwilio OK Stores, Ffordd Conwy, Cyffordd Llandudno a Mini Mart, Mostyn Street, Llandudno. Yn ystod yr archwiliad, daeth y Swyddogion Safonau Masnach o hyd i symiau sylweddol o’r canlynol a’u hatafaelu:
- teganau plant ffug a pheryglus
- tybaco a sigaréts peryglus, anghyfreithlon a ffug
- fêps peryglus ac anghyfreithlon
ynghyd ag arian ffug.
Caewyd y ddwy siop ar unwaith a gwnaethpwyd cais i Lys Ynadon Llandudno i gau’r ddwy siop am 3 mis arall.
Ar 23 Medi, cyflwynodd Llys Ynadon Llandudno orchymyn i gau OK Stores yng Nghyffordd Llandudno am dri mis a gohiriwyd penderfyniad ynglŷn â Mini Mart, Llandudno, gyda’r siop yn aros ar gau am 14 diwrnod, gyda’r posibilrwydd y bydd yn aros ar gau am dri mis arall.
I roi gwybod am drosedd cysylltwch â Crimestoppers ar 0800 55511
Cysylltwch â Safonau Masnach Conwy ar safonau.masnach@conwy.gov.uk
Safonau Masnach - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 30/09/2025