I warchod iechyd y cyhoedd rhag risgiau Coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i rai busnesau gau. Mae’n rhaid i’r rhai sy’n cael aros ar agor gydymffurfio â gofynion penodol, er enghraifft, pellter rhwng pobl. Bydd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach y Cyngor yn gorfodi’r rheoliadau hyn. Mae busnesau’n cael eu hannog i gadw at y gofynion newydd yma ar: https://llyw.cymru/coronafeirws-covid-19-cau-busnesau-ac-adeiladau-0
Os ydych yn credu bod cwmni wedi torri’r gyfraith neu wedi gweithredu’n annheg, efallai y byddwch yn gallu eu riportio i Cyngor ar Bopeth.
Gellir cael arweiniad cyfreithiol am ddim, diduedd i fusnesau a defnyddwyr yn y dolenni isod
Busnesau
Gallwn helpu busnesau drwy ddarparu ystod eang o wybodaeth a chanllawiau i'ch helpu i ddeall y gyfraith a sut y mae'n berthnasol i chi. Cysylltwch â ni am gyngor.
Defnyddwyr
Os ydym eisoes yn delio â’ch anghydfod, cysylltwch â thîm Safonau Masnach Conwy.
Ebost: safonau.masnach@conwy.gov.uk
Rhif Ffôn: 01492 574110
Hysbysiad Preifatrwydd