Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Newydd Arfaethedig ym Mae Colwyn

CBSC
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru, yn bwriadu gwneud Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus newydd ar gyfer Bae Colwyn gan fod y gorchymyn blaenorol wedi dod i ben.
Cyflwynwyd y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ym mis Mai 2022 dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 i fynd i’r afael â phroblemau fel yfed ar y stryd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ymysg pobl ifanc. Roedd mewn grym am dair blynedd ac yn galluogi Heddlu Gogledd Cymru i gymryd camau gorfodi pan oedd achosion o dorri’r amodau yn yr ardal ddynodedig.
Mae gorchmynion o’r fath yn helpu preswylwyr ac ymwelwyr sy’n parchu’r gyfraith i fwynhau mannau cyhoeddus heb gael eu heffeithio gan ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yn dilyn adolygiad gyda Heddlu Gogledd Cymru, y cynnig yw cyflwyno Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus newydd am dair blynedd arall, gan ddiwygio’r amodau blaenorol drwy dynnu’r cymal sy’n ymwneud yn benodol ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ymhlith pobl ifanc, oherwydd heriau wrth orfodi ac amwysedd, ac ehangu’r ardal ddynodedig.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn para chwe wythnos, o 26 Tachwedd 2025 tan 7 Ionawr 2026.
Meddai’r Cynghorydd Stephen Price, Aelod Cabinet Tai, Rheoleiddio ac Archwilio Conwy: “Mae arnom ni eisiau i Fae Colwyn fod yn lle diogel a chroesawgar i bawb. Mae’r newidiadau arfaethedig yn mynd i’n helpu ni i fynd i’r afael â phroblemau parhaus a gwneud yn siŵr bod preswylwyr ac ymwelwyr yn gallu mwynhau’r mannau cyhoeddus.”
Meddai’r Prif Arolygydd, Trystan Bevan: “Rydym ni’n credu y bydd Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn helpu i greu cymuned fwy diogel a mynd i’r afael â phroblemau sy’n peri ofn, pryder ac anhwylustod i breswylwyr. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol; bydd Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio agos gyda’n partneriaid i sicrhau cadernid wrth orfodi’r gyfraith i gyflwyno cymdogaeth lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel ynddi.”
Os hoffech wrthwynebu’r Gorchymyn arfaethedig, dylech wneud hynny’n ysgrifenedig, gan nodi’r rhesymau dros eich gwrthwynebiad, drwy e-bost i ConwyDiogelach@conwy.gov.uk, neu drwy’r post at Bennaeth y Gwasanaethau Rheoleiddio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Bae Colwyn LL29 0GG.
Am fwy o wybodaeth am y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus arfaethedig, ewch i: Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Diwygiedig Arfaethedig - Tref Bae Colwyn - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 26/11/2025