Fel preswylydd neu berchennog busnes yn yr ardal, mae’n debyg eich bod yn ymwybodol o broblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â phobl yn yfed alcohol ar strydoedd tref Bae Colwyn a phroblemau hefyd yn ymwneud â phobl ifanc – mae’r ddau beth yn niweidiol i’r ardal.
Ym mis Mai 2022 cyflwynwyd Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 ar gyfer ardal benodol o dref Bae Colwyn. Yr oedd y Gorchymyn hwn yn gosod amodau mewn perthynas ag ymddygiad yn yr ardal honno ac yn galluogi Heddlu Gogledd Cymru i ddelio â phobl a oedd yn torri’r amodau hynny. Bu’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus mewn grym am 3 blynedd.
Mae’r Gorchmynion hyn yn ein galluogi i osod gwaharddiadau neu ofynion ar ardaloedd penodol fel bod dinasyddion sy’n parchu’r gyfraith yn gallu mwynhau mannau cyhoeddus heb i ymddygiad gwrthgymdeithasol effeithio arnynt.
Ar ôl 3 blynedd mae yna ddewis i ymestyn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus am dair blynedd arall; fodd bynnag, ar ôl adolygu’r Gorchymyn gyda Heddlu Gogledd Cymru, cytunwyd i ddiwygio’r amodau a hefyd ehangu’r ardal y mae’r amodau’n berthnasol iddynt.
Nid yw’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus arfaethedig newydd yn cynnwys yr amod a oedd yn ymwneud yn benodol ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ieuenctid. Mae hyn oherwydd anawsterau a gafwyd gyda gorfodi a hefyd oherwydd bod rhywfaint o amwysedd ynglŷn â gofyniad yr amod.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn agored am 6 wythnos o 26 Tachwedd 2025 y dyddiad cau ar gyfer sylwadau fydd 7 Ionawr 2026.
Os hoffech wrthwynebu’r Gorchymyn arfaethedig, dylech wneud hynny’n ysgrifenedig, gan nodi’r rhesymau dros eich gwrthwynebiad, drwy e-bost i ConwyDiogelach@conwy.gov.uk, neu drwy’r post at Bennaeth y Gwasanaethau Rheoleiddio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Bae Colwyn LL29 0GG.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus arfaethedig, mae croeso i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion sydd ar frig y llythyr hwn.