Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn nhref Conwy

Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn nhref Conwy


Summary (optional)
start content

Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn nhref Conwy

Safer Conwy logo

Conwy Diogelach

Mae’r mesurau a gyflwynwyd i atal trosedd, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn nhref Conwy wedi’u hymestyn am dair blynedd arall.

Drwy weithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymestyn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn nhref Conwy, yn cynnwys y Stryd Fawr, y Cei, yr orsaf drenau a Pharc Bodlondeb.

Mae’r Gorchymyn yn golygu y bydd unrhyw un sy’n gwrthod rhoi’r gorau i yfed alcohol, neu sy’n gwrthod ildio’r alcohol pan fydd Swyddog yr Heddlu neu Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn gofyn, yn agored i gael Rhybudd Cosb Benodedig neu ddirwy drwy’r llysoedd.

Cyflwynwyd y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus presennol yn nhref Conwy ym mis Mai 2022, dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 i helpu i fynd i’r afael â’r materion hyn er budd preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr â’r dref.

Gwahoddwyd preswylwyr lleol, perchnogion busnes a chynghorwyr i gyflwyno eu barn ynghylch ymestyn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus, ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau.

Dywedodd y Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet y Gymdogaeth, yr Amgylchedd a Gwasanaethau Rheoleiddio Conwy, “Rydym yn gobeithio, drwy ymestyn y Gorchymyn hwn, y bydd yn parhau i fod yn rhwystr effeithiol, a hefyd yn galluogi i droseddwyr gael eu trin yn gyflym gan Swyddogion yr Heddlu.”

Dywedodd y Prif Arolygydd Trystan Bevan, “Credwn yn yr achos hwn y bydd Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn gwneud ein cymuned yn fwy diogel ac yn ein helpu i fynd i’r afael â phroblemau sy’n achosi braw, ofn a niwsans i breswylwyr lleol. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol; bydd Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio gyda’n partneriaid er mwyn sicrhau cadernid wrth orfodi’r gyfraith i gyflwyno cymdogaeth fwy diogel i bawb.”

Gellir gweld y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus a’r map yn:  Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus Presennol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

 

Nodiadau:

Mae Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn galluogi Awdurdodau Lleol i osod gwaharddiadau neu ofynion ar ardaloedd penodol fel bod dinasyddion sy'n parchu'r gyfraith yn gallu mwynhau mannau cyhoeddus heb gael eu heffeithio gan ymddygiad gwrth-gymdeithasol.  Mae’r Gorchmynion yn ddilys am gyfnod o dair blynedd oni bai y cânt eu hymestyn.

Conwy Diogelach: Conwy Diogelach - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Wedi ei bostio ar 04/06/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content