Nodyn atgoffa i Elusennau ymgeisio am Ryddhad Ardrethi

Rhyddhad Gorfodol a Dewisol
Mae Bwrdeistref Sirol Conwy yn atgoffa sefydliadau elusennol i ymgeisio am Ryddhad Ardrethi Gorfodol a Dewisol.
Mae Rhyddhad Ardrethi Elusennol yn cael ei adolygu bob tair blynedd, ac mae’r cyfnod cyfredol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2026.
Gallai elusennau cofrestredig sy’n meddiannu eiddo, ynghyd â Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol a Sefydliadau Cymdeithasol fod yn gymwys. Maent yn cael eu hannog i ymgeisio am y rhyddhad cyn gynted â phosibl i osgoi oedi a’r posibilrwydd o beidio â chael Rhyddhad Ardrethi yn eu cyfrifon ar gyfer 2026/2029.
Gellir canfod rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar sut i wneud cais ar wefan y Cyngor. Rhyddhad Ardrethi Gorfodol a Dewisol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 30/10/2025