Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rhyddhad Gorfodol a Dewisol


Summary (optional)
start content

Peidiwch ag oedi – Gwnewch Gais am Ryddhad Elusennol am y tair blynedd nesaf; 2023-2026

Efallai bod eich cyfrif wedi bod yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Treth Gorfodol a/neu Ddewisol yn y gorffennol. Adolygir y rhyddhad hwn bob tair blynedd a bydd yn dod i ben ar bob cyfrif ar 31.03.2023

Os hoffech wneud cais mewn perthynas â Rhyddhad Gorfodol neu Ddewisol gwnewch gais ar y ffurflen isod.

Rhyddhad Gorfodol (80%)

Os oes gennych safle yn eich meddiannaeth sy'n cael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion elusennol ac, os ydych yn Elusen Gofrestredig neu os ydych wedi cofrestru gyda Chyllid y Wlad fel Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol, gallwch wneud cais am Ostyngiad Gorfodol Ar y Dreth o 80%.  Gall elusennau sydd wedi cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau o dan Adran 3 o Ddeddf Elusennau 1983, gan gynnwys y rheiny sydd wedi’u heithrio o gofrestriad tebyg, fod yn gymwys hefyd.   Gallwn roi Rhyddhad Gorfodol ar ôl i chi gadarnhau’ch rhif Elusen Gofrestredig neu Glwb Chwaraeon Amatur Cymunedol neu, yn achos achosion eithriedig, cadarnhad ysgrifenedig ynghyd â dogfennau gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Dylech anfon unrhyw ymholiadau trwy e-bost at: nndr.enquiries@conwy.gov.uk neu ffoniwch (01492) 576609.

Rhyddhad Dewisol Atodol o 20% / Rhyddhad Dewisol o 100%

Mewn achosion lle mae Rhyddhad Gorfodol yn berthnasol, gallwch wneud cais hefyd am Ryddhad Dewisol Atodol o 20%.  Mewn achosion lle nad yw Rhyddhad Gorfodol yn berthnasol, gallwch wneud cais am Ryddhad Dewisol o 100%.  Rhaid llenwi ffurflen gais bob amser er mwyn gwneud cais am Ryddhad Dewisol.

Sylwch bod yn rhaid i Sefydliadau Chwaraeon a Chymdeithasol lenwi’r Ffurflen Gais Rhyddhad Dewisol ac Elusennol Ar Y Dreth a hefyd y Ffurflen Gais ar gyfer Clybiau Chwaraeon a Chymdeithasol. Ar ôl eu llenwi, anfonwch y ffurflenni at:  nndr.enquiries@conwy.gov.uk


Rhaid i Glybiau Chwaraeon a Chymdeithasol cwblhau'r ffurflen isod:

 

Mae’n rhaid i chi hysbysu Adran Ardrethi Busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy os yw eich amgylchiadau’n newid tra’r ydych yn derbyn naill ai Gostyngiad Gorfodol neu Ddewisol Ar y Dreth.  Sylwch hefyd bod yn rhaid i’r Awdurdod hwn roi 12 mis o rybudd i chi os oes unrhyw newid mewn rhyddhad sydd eisoes wedi ei ganiatáu.

end content