Nodyn i atgoffa i wneud cais am Ryddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod 2026-27

Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Canllawiau y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2026 ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn atgoffa busnesau lleol i beidio colli allan.
O 1 Ebrill 2026, gallai busnesau fod yn gymwys am 15% o ryddhad ardrethi busnes dan y cynllun newydd hwn.
Mae eiddo a all gyflwyno ceisiadau ar gyfer y rhyddhad hwn yn cynnwys eiddo lletygarwch bwyd a diod, megis tafarndai, bwytai, caffis, bariau a lleoliadau cerddoriaeth fyw ledled Cymru.
Bydd busnesau cymwys a feddiannwyd yn cael rhyddhad o 15% yn eu hardrethi ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27, ond bydd swm yr hyn a gaiff ei ryddhau o dan gynllun yn cael ei gapio ar £110,000 fesul busnes drwy Gymru gyfan.
Meddai’r Cynghorydd Chris Cater, Aelod Cabinet Cyllid a Chynllunio Strategol, “Mae’n bwysig nad yw busnesau cymwys yn anghofio gwneud cais am y rhyddhad sylweddol hwn, a dargedwyd. Mae gwirio os ydych chi’n gymwys ai peidio yn rhwydd, ac mae ffurflenni cais ar gyfer 2026/2027 ar wefan y Cyngor.”
Os ydych chi’n credu eich bod yn gymwys am y rhyddhad hwn, ond heb wneud cais mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyfredol 2026-27, cwblhewch ffurflen ar wefan y Cyngor Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod 2026-27 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Gallwch weld copi o'r canllawiau yma: Ardrethu Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod 2026-27 | Busnes Cymru
Wedi ei bostio ar 18/08/2026