Mae Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod ar gael i fusnesau cymwys sy’n gweithredu yn y sector lletygarwch bwyd a diod. Bydd busnesau cymwys yn derbyn gostyngiad o 15% yn eu rhwymedigaeth net ar gyfer ardrethi annomestig yn 2026–27. Ni ddylai uchafswm gwerth ariannol o’r rhyddhad ardrethi a ganiateir, ar draws pob eiddo yng Nghymru a feddiannir gan yr un busnes, fod yn fwy na £110,000.
Darperir y rhyddhad fel cymhorthdal ar ffurf Cymorth Ariannol Lleiaf. Ni chaiff yr un busnes hawlio mwy na £315,000 o Gymorth Ariannol Lleiaf i gyd ar draws y DU dros gyfnod o dair blynedd (gan gynnwys 2026–27). Felly, ni ddylai gwerth gros y rhyddhad a hawlir gan yr un busnes fod yn fwy na £110,000 yng Nghymru ar gyfer 2026–27 (er mwyn cydymffurfio â thelerau’r cynllun hwn), nac yn fwy na £315,000 i gyd ar draws y tair blynedd ariannol 2024–25 i 2026–27, yn unol â gofynion rheoli cymorthdaliadau’r DU. Rhaid i fusnesau sy'n hawlio'r rhyddhad ddatgan nad yw'r swm sy'n cael ei hawlio yn fwy na'r terfynau hynny, cyn y gellir dyfarnu'r rhyddhad.
Mae'n ofynnol i fusnesau ddatgan eu bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a nodir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru a nodi pa eiddo y maent yn ceisio hawlio’r rhyddhad ar eu cyfer. Lle bo 15% o’r rhwymedigaeth ar draws eiddo busnes yn fwy na £110,000 neu'r terfyn Cymorth Ariannol Lleiaf, rhaid i fusnesau bennu pa eiddo y maent yn dymuno i’r rhyddhad fod yn berthnasol iddynt. Gall busnesau ddewis pa eiddo y maent yn ceisio’r rhyddhad ar eu cyfer. Lle bo cyfanswm y rhyddhad a ganiateir ar gyfer eiddo eraill yn agos at yr uchafswm o £110,000 neu derfyn y Cymorth Ariannol Lleiaf, gellir caniatáu swm o ryddhad sy’n llai na 15% ar gyfer eiddo pellach sy’n gymwys.
Rhaid cyflwyno ffurflen gais i bob awdurdod lleol y mae busnes yn ceisio hawlio rhyddhad ganddo ar gyfer eiddo yn ardal yr awdurdod hwnnw. Rhaid i bob ffurflen gynnwys manylion yr holl eiddo y ceisir hawlio rhyddhad ar eu cyfer ledled Cymru. Os na chyflwynir cais, ni ellir dyfarnu’r rhyddhad.
Bydd unrhyw ymgais gan fusnes i hawlio dros £110,000 o ryddhad yn fwriadol yn peri risg o dynnu'r rhyddhad a roddwyd i'r busnes hwnnw gan unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn ôl. Bydd gwybodaeth am ryddhad a hawlir yn cael ei rhannu ag awdurdodau lleol eraill a Llywodraeth Cymru, gan alluogi i unrhyw hawliadau cyfanredol dros £110,000 gael eu nodi ac os oes angen, cymryd camau priodol.
Ni fydd Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn goddef unrhyw fusnes yn ffugio eu cofnodion nac yn darparu tystiolaeth ffug er mwyn ennill y gostyngiad hwn, gan gynnwys hawlio cymorth sy’n fwy na’r cap o £110,000 neu’r trothwy eithrio perthnasol. Gall busnes sy’n gwneud cais ffug am unrhyw ryddhad, neu sy’n darparu gwybodaeth ffug neu’n ymhonni'n anwir er mwyn cael rhyddhad, fod yn euog o dwyll o dan Ddeddf Twyll 2006 ac yn ddarostyngedig i gamau cyfreithiol. Yn ogystal, bydd pob Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod yn cael ei dynnu’n ôl o holl eiddo’r busnes hwnnw ar gyfer 2026–27.
At ddibenion y cynllun hwn, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fel Rheolwyr Data, yn rhannu’r wybodaeth a gesglir â Llywodraeth Cymru ac, os oes angen, ag unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru. Gellir cael mynediad at ein Hysbysiad Preifatrwydd ar wefan Cyngor Bwredeistref Sirol Conwy.
Mae canllawiau llawn y cynllun a'r meini prawf cymhwysedd ar gael ar wefan Busnes Cymru: Canllawiau rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch 2026-27